Mae disgwyl i Ellis Jenkins, blaenasgellwr Gleision Caerdydd a Chymru, ddychwelyd i’r cae ar ôl dros ddwy flynedd allan ag anaf i’w ben-glin.
Dydy Ellis Jenkins ddim wedi chwarae ers anafu ei ben-glin yn ddifrifol yn eiliadau olaf gêm yn erbyn De Affrica fis Tachwedd 2018.
Mae’r gŵr 27 oed wedi cael tair llawdriniaeth yn ystod ei adferiad.
Ond bydd yn dychwelyd i chwarae am y tro cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn y Gweilch ddydd Gwener (Chwefror 12), gyda’r gic gyntaf am 2:30yh.
Mae e wedi ennill 11 cap dros ei wlad yn ogystal â chael ei ddewis yn gyd-gapten Cymru gyda Cory Hill yn ystod taith i’r Unol Daleithiau yn 2018.
Roedd arwyddion ei fod yn agos at ddychwelyd fis diwethaf pan ddywedodd Dai Young, Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision, ei fod yn “ddi-anaf”.
Erbyn hyn, mae Ellis Jenkins wedi cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi ac mae’r Gleision yn credu ei fod yn barod i chwarae mewn gêm.
Ac os bydd pethau’n mynd yn iawn yn erbyn y Gweilch, gallai chwarae yn erbyn Connacht yn y Pro14 ar Chwefror 20.