Tri mis yn unig aeth heibio ers i Gymru wynebu’r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd, a bydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd unwaith eto yn y Bencampwriaeth y penwythnos hwn.
Ar ôl colli’r gêm gafodd ei hail-drefnu fis Hydref o 10-14, mae’r prop Wyn Jones yn gobeithio y gall Cymru dalu’r pwyth yn ôl.
Wyn Jones oedd seren y gêm ym muddugoliaeth flêr Cymru dros y Gwyddelod ar benwythnos agoriadol y Chwe Gwlad eleni, ac mae’n cydnabod y bydd yr Albanwyr yn llawn hyder ar ôl curo Lloegr yn Twickenham o 6-11 – eu buddugoliaeth gyntaf yno ers 1983.
“Dangosodd yr Alban eu bod yn dîm da iawn ddydd Sadwrn,” meddai.
“Roedden nhw’n cymryd eu cyfleoedd, yn amddiffyn yn dda ac yn enillwyr haeddiannol.
“Ni’n gwybod pa mor fygythiol all yr Alban fod ers i ni eu chwarae nhw yn yr hydref.
“Dw i’n edrych ymlaen am y gêm, mae mwy yn y fantol. Byddwn yn mynd i fyny yno ac yn ceisio gwneud yn iawn am y camgymeriadau y tro diwethaf.”
Rhestr anafiadau ar gynnydd
Er mai Cymru oedd yn fuddugol yn erbyn Iwerddon, mae rhestr anafiadau tîm Wayne Pivac yn cynyddu’n gyflym.
Mae’n annhebygol y bydd Dan Lydiate, Tomos Williams, Johnny Williams na Hallam Amos ar gael i wynebu’r Albanwyr.
Mae disgwyl hefyd i George North gael asesiad pellach ar ei lygaid ar ôl iddo fe golli rhywfaint o’i olwg yn ystod y gêm.
“Fel gydag unrhyw gêm ryngwladol, mae ’na anafiadau yn mynd i fod,” eglura Wyn Jones.
“Mae’n drueni bod Lyds [Dan Lydiate] wedi mynd i ffwrdd yn eithaf cynnar.
“Fel arall, mae pawb arall yn cerdded o gwmpas ac yn edrych yn iawn.
“Cawn weld sut fydd yr anafiadau wedi’r asesiadau i wneud yn siŵr bod pawb yn iawn ar gyfer dydd Sadwrn nesaf.
“Rwy’n siŵr y bydd rhai o’r bechgyn sydd wedi rhoi shifftiau hir i mewn heddiw yn cael gorffwys, ac yna byddwn ni’n mynd yn ôl ati o ddifri ddydd Mawrth.”