Doedd dim torf, côr meibion nag hyd yn oed gafr yno i groesawu Cymru yn ôl i Stadiwm Principality am y tro cyntaf ers bron i flwyddyn brynhawn Sul.
Er i un neu ddau fentro i stryd Westgate i weld y tîm yn cyrraedd, roedd teimlad oeraidd, od, yn y brifddinas ar benwythnos cyntaf y bencampwriaeth.
Ond er y sefyllfa ddieithr roedd rhywbeth rhyfedd o gyfarwydd am weld Alun Wyn Jones yn arwain ei wlad allan yn y Stadiwm Genedlaethol unwaith eto – gyda thorf neu beidio.
Doedd blwyddyn gyntaf Wayne Pivac wrth y llyw ddim yn un i’w drysori, blwyddyn o dangyflawni ac arbrofi yn sgil y pandemig.
Wrth gwrs, ymhen deg mlynedd bydd neb yn cofio pwy enillodd Cwpan Cenhedloedd yr Hydref, ond roedd cymaint mwy yn y fantol tu ôl i ddrysau caeedig Stadiwm Principality dros y penwythnos.
Pe bai Cymru wedi colli yn erbyn Iwerddon – neu, yn waeth fyth, yn erbyn 14 dyn Iwerddon – byddai wedi bod yn ddinistriol i’r gŵr o Seland Newydd oedd eisoes yn byw yng nghysgod ei ragflaenydd.
‘Fe wnaethon ni fethu’r cefnogwyr’
Wedi i Iwerddon barhau i ddominyddu’r gêm ar ôl i Peter O’Mahony gael ei anfon o’r cae ar ôl 14 munud, mae Wayne Pivac yn cydnabod fod dal lle i wella.
“Mae’n bwysig iawn ein bod ni wedi ennill, mae’n rhaid i ni ganolbwyntio nawr gan mai dim ond chwe diwrnod sydd gennym cyn wynebu carfan hyderus a chryf iawn yr Alban, a hynny ar eu tir eu hunain.
“Fe wnaethon ni fethu’r cefnogwyr – bydden ni wrth ein bodd yn cael stadiwm lawn ond nid dyna’r byd rydym ni’n byw yno ar hyn o bryd. Mae’n wahanol ond roedd yn un o’r gemau hynny a’n cadwodd ni ar ymyl ein seddi.
“Roedd ein sgrym yn dda, roedd yn amlwg yn well na’r tro diwethaf, ond mae’n amlwg fod pethau dal i’w tacluso yn y lein.
“Ar eu pêl nhw fe wnaethon ni droi rhywfaint drosodd a rhoi pwysau arnyn nhw. Roedd yn eithaf cymysg yn yr ardal honno.
“Fe gostiodd disgyblaeth y tro diwethaf i ni chwarae Iwerddon, fe wnaethant gicio 18 pwynt o ganlyniad i’n disgyblaeth ni bryd hynny a dyna roddodd bwysau arnom y tro yma gan ei rhoi nhw nôl yn y gêm.
“Mae’n rhaid i ni edrych ar yr agwedd yna o’r gêm, beth sy’n achosi i hyn ddigwydd a gwneud yn siŵr ein bod yn tacluso hynny.”
Anafiadau a’r pwysau yn cynyddu
Dim ond tair gêm oedd Wayne Pivac wedi ennill fel Prif Hyfforddwr y tîm cenedlaethol cyn penwythnos agoriadol y Chwe Gwlad eleni – dwy gêm yn erbyn yr Eidal ac un yn erbyn Georgia.
Bydd y pwysau nawr yn cynyddu hyd yn oed yn fwy ar ei dîm, yn enwedig gan fod y rhestr o anafiadau eisoes yn pentyrru.
Un o rheini yw’r blaenasgellwr Dan Lydiate, a oedd yn chwarae ei gêm gyntaf i Gymru ers 2018, bu rhaid iddo adael y cae yn gynnar ar ôl anafu ei ben-glin.
“Bydd rhaid aros am y sgan ond dydy’r anaf ddim yn edrych yn dda,” meddai Wayne Pivac ar ôl y gêm.
“Mae’n bosib mae ACL yw’r anaf, ond byddwn yn rhaid aros am y sgan er mwyn cael ateb pendant ar hynny. Mae’n siomedig iawn i Dan ac mae’n hynod siomedig yn yr ystafell newid ar hyn o bryd.
“Aeth Johnny Williams i ffwrdd am asesiad i’w ben ac ni ddaeth yn ôl ymlaen. Yr un oedd hanes Hallam Amos a gymerodd ergyd hwyr i’w ben hefyd. Yna mae’n edrych fel bod Tomos Williams wedi anafu llinyn y gar – rydyn ni’n gobeithio nad yw’n ddifrifol ond dw i ddim yn meddwl y bydd yr un ohonynt yn barod [i wynebu’r Alban].”
“Bydd rhaid aros am y wybodaeth ddiweddaraf, rydym wedi cael y diweddariad cychwynnol a byddwn yn mynd i ffwrdd nawr ac yn edrych ar ein hopsiynau, a’r hyn bydd angen arnom i’n cael ni dwy’r wythnos hyfforddi.”
Er na wnaeth Cymru bethau’n hawdd iddyn nhw’u hunain, mae crafu buddugoliaeth flêr yn erbyn 14 dyn Iwerddon yn gam i’r cyfeiriad cywir ac yn tynnu peth bwysau oddi ar yr hyfforddwr.
Heb ymateb yn rhy fyrbwyll, dydy’r fuddugoliaeth hon ddim yn cynnig llwybr clir i Wayne Pivac a’i dîm hyfforddi: mae’n rhaid i hyfforddwr y blaenwyr, Jonathan Humphreys, roi trefn ar y lein er enghrhaifft.
Ond y cwestiwn mawr nawr yw, a fydd modd i Gymru dargedu’r gwendidau hyn a pharhau i gymryd eu cyfleoedd yn y bencampwriaeth eleni?