Mae’r blaenasgellwr Dan Lydiate wedi ei ryddhau o garfan Cymru, ac mae disgwyl iddo fethu gweddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Roedd yn chwarae ei gêm gyntaf i Gymru ers 2018 dros y penwythnos, ond bu’n rhaid iddo adael y cae yn gynnar ar ôl anafu ei ben-glin.

Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd wedi cadarnhau na fydd Tomos Williams, Johnny Williams na Hallam Amos ar gael i chwarae yn erbyn yr Alban ar ail benwythnos y bencampwriaeth.

Gadawodd Tomos Williams y cae ar ddiwedd yr hanner cyntaf gydag anaf i linyn y gâr a bu’n rhaid i Jonny Williams a Hallam Amos adael ar ôl cael cyfergyd.

Bydd asesiadau pellach yn cael eu cynnal dros y dyddiau nesaf ac mae disgwyl i Wayne Pivac alw chwaraewyr eraill i’r garfan maes o law yn dilyn profion a chanlyniadau Covid-19.

‘Torcalonnus’

Doedd dim modd i hyfforddwr amddiffyn newydd Cymru, Gethin Jenkins, gynnig diweddariad am anafiadau George North a Nick Tompkins brynhawn dydd Mawrth, Chwefror 9.

“Roedd ambell un o’r bois yn dioddef o anafiadau erbyn y diwedd a bu rhaid i ni gyfri’r gost ddoe a heddiw cyn y penwythnos,” meddai.

“Dydw i ddim eisiau siarad gormod amdanyn nhw. Dim ond 24, 48 awr sydd wedi bod ers y gêm.

“Buom ni’n cadw llygaid ar Dan dipyn dros y Nadolig a fo oedd heb os y chwech gorau yng Nghymru. I weld beth ddigwyddodd yn digwydd mor gynnar yn y gêm, mae’n dorcalonnus.

Wrth adlewyrchu ar y gêm mae Gethin Jenkins o’r farn nad oedd gwneud 240 tacl yn ystod y gêm yn rhywbeth i’w ganmol.

“Os ydych chi’n chwarae yn erbyn tîm fel Iwerddon, rydych chi’n gwneud mwy o daclo nag arfer. Ond dydw i ddim yn gweld 200 tacl fel rhywbeth cadarnhaol, mae’n negyddol.

“Mae’n golygu bod pethau’n mynd o chwith mewn meysydd eraill.

“Dw i’n falch ein bod wedi gwneud cynnydd ar yr ymgyrch ddiwethaf ond mae tipyn o ffordd i fynd.”

Cymru 21-16 Iwerddon

Lleu Bleddyn

Cymru yn curo’r Gwyddelod yng Nghaerdydd