Mae Michael Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, yn dweud y dylai ei dîm fod wedi ennill y gêm yn erbyn Southend yn Rodney Parade neithiwr (nos Fawrth, Chwefror 9).

Ond yr ymwelwyr oedd yn fuddugol o 1-0, gyda chic rydd Tom Clifford ar ôl 74 munud yn codi ei dîm oddi ar waelod y gynghrair ar ôl pedair colled yn olynol.

Er eu bod nhw ar frig yr Ail Adran ar ddechrau’r flwyddyn, mae’r Alltudion wedi llithro i’r pumed safle ar ôl ennill dim ond un gêm allan o 11.

Daw eu gêm nesaf yn Port Vale dros y penwythnos cyn iddyn nhw herio Caerwysg a Forest Green ar eu tomen eu hunain yr wythnos nesaf.

“Fe ddylen ni fod wedi ennill y gêm honno,” meddai Michael Flynn.

“Fe wnaethon ni fethu tri chyfle hawdd ac roedd yn berfformiad gwael iawn.

“Mae’n destun rhwystredigaeth oherwydd gyda Chaergrawnt yn colli, fe wnaethon ni golli cyfle i fynd yn ail yn y tabl.

“Doedd hi ddim yn agos at yr hyn dw i’n ei ddisgwyl gan fy nhîm na’r hyn dw i ei eisiau ganddyn nhw.

“Wnaethon ni ddim ennill digon o’r bêl yng nghanol y cae ac mae angen i ni chwarae â thipyn mwy o safon.”