Mae Jeremy Lawlor, cyn-gricedwr Morgannwg, wedi’i ddewis i chwarae i ail dîm Iwerddon ar gyfer eu taith i Bangladesh.

Mae’r batiwr o Gaerdydd yn gymwys i gynrychioli’r Gwyddelod gan fod ganddo fe basport Gwyddelig ac mae e newydd ymuno â thîm Carrickfergus.

Daw taith mis o hyd y Gwyddelod ar ôl iddyn nhw wneud trefniadau teithio yn unol â rheoliadau Covid-19.

Bydd y daith yn dechrau ar Chwefror 17, a bydd y tîm yn chwarae chwe gêm aml-fformat yn erbyn tîm ‘A’ Bangladesh – un gêm pedwar diwrnod, pum gêm 50 pelawd a dwy gêm ugain pelawd.

Cafodd y tîm ei sefydlu yn 2017 i bontio’r bwlch rhwng criced domestig a’r tîm rhyngwladol llawn, gan roi cyfle i chwaraewyr ymylol ennill eu lle yn y tîm cenedlaethol.

Maen nhw eisoes wedi curo Bangladesh, Zimbabwe a Namibia dros y blynyddoedd diwethaf.

Chwaraeodd Jeremy Lawlor 11 o gemau dosbarth cyntaf a phum gêm undydd Rhestr A cyn i Forgannwg ei ryddhau ar ddiwedd tymor 2019.

Sgoriodd e 384 o rediadau dosbarth cyntaf i’r sir ar gyfartaledd o 24, gan gynnwys tri hanner canred a sgôr uchaf o 81, ac fe gipiodd e saith wiced fel bowliwr lled-gyflym.

Mae e’n chwarae yn Iwerddon ers dechrau’r tymor diwethaf.