Mae Cwpan y Byd Digartref wedi cael ei ganslo oherwydd yr ansicrwydd ynghylch teithio a rheoliadau Covid-19.

Ond mae’r trefnwyr yn dweud bod trefniadau ar y gweill yn y gobaith o’i gynnal y flwyddyn nesaf.

Bwriad y gystadleuaeth yw defnyddio pêl-droed i gefnogi ac ysbrydoli pobol ddigartref i newid eu bywydau eu hunain er gwell, ac i newid agweddau tuag at bobol sy’n ddigartref.

Mae wythnos o ddigwyddiadau’n cael ei chynnal bob blwyddyn, gan ddod â mwy na 450 o chwaraewyr ynghyd o fwy na 40 o wledydd ym mhob cwr o’r byd.

Mae miloedd o bobol fel arfer yn mynd i’r gemau, gyda miliynau yn rhagor yn gwylio’r gystadleuaeth ar y we.

Ymateb

“Tra bod datblygiadau chwim sydd ar y gweill gyda sawl brechlyn i fynd i’r afael â’r pandemig COVID-19 yn cynnig gobaith i ni ar gyfer y dyfodol, mae’r ansicrwydd ynghylch teithio’n rhyngwladol a chyflwyno digwyddiad mawr tra bod y pandemig ar y gweill wedi ein harwain at y penderfyniad hwn,” meddai Mel Young, Llywydd a chyd-sylfaenydd Sefydliad Cwpan y Byd Digartref.

“Bydd hyn yn ddiau yn destun siom i nifer, ond hyderwn mai dyma’r penderfyniad cywir er lles diogelwch ein cyfranogwyr, ein partneriaid a’r cyhoedd ar hyn o bryd.

“Yn ôl yr arfer, mae ein hymrwymiad i ddefnyddio pêl-droed fel ffordd o fynd i’r afael â digartrefedd yn parhau’n brif amcan i ni, a byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino ar y cyd â’n holl bartneriaid byd-eang i roi terfyn ar ddigartrefedd.”