Fe fydd y ddau Americanwr, Jordan Morris a Paul Arriola, ar gael i fod yng ngharfan bêl-droed Abertawe ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Manchester City ym mhumed rownd Cwpan FA Lloegr yn Stadiwm Liberty heno (nos Fercher, Chwefror 10).
Oddi ar y fainc mae Morris wedi chwarae’r ddwy gêm ddiwethaf ar ôl ymuno ar fenthyg o’r Seattle Sounders.
Glaniodd Arriola yng Nghymru dros y penwythnos, ac mae e ar fenthyg o DC United, tîm arall perchnogion yr Elyrch, ond mae e wedi creu argraff eisoes wrth ymarfer a’r disgwyl yw y bydd lle iddo fe ar y fainc.
Yn y cyfamser, mae Korey Smith yn parhau i wella o anaf i’w gyhyr, ond mae Liam Cullen allan am gyfnod sylweddol ag anaf i’w ffêr.
Yr ymwelwyr
Bydd Manchester City heb rai o’u sêr ar gyfer y gêm, gan gynnwys Sergio Aguero, Kevin De Bruyne a Nathan Ake.
Bydd cefnogwyr yr Elyrch yn cofio gôl ddadleuol Aguero pan heriodd y ddau dîm ei gilydd yn 2019.
Mae e newydd ddechrau ymarfer eto ar ôl profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws, ond dydy e ddim wedi gwella mewn da bryd ar gyfer y gêm.
Mae disgwyl i Pep Guardiola enwi tîm cryf, ond fe allai sawl chwaraewr ifanc gael cyfle i serennu hefyd.