Mae Peter O’Mahony, blaenasgellwr Iwerddon, wedi ei wahardd am dair gêm ar ôl cael ei anfon o’r cae yn erbyn Cymru.

Ar ôl rhuthro i mewn i dacl ar y prop Tomas Francis â’i ysgwydd, cafodd y drosedd ei gweld gan y dyfarnwr fideo.

Bu’n rhaid i Iwerddon chwarae gyda 14 dyn am weddill y gêm.

Fe ymddangosodd O’Mahony gerbron pwyllgor disgyblu annibynnol ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 9).

Canfu’r pwyllgor fod ei weithredoedd yn gyfystyr â gwaharddiad chwe wythnos oherwydd “cyswllt byrbwyll â’r pen”.

Fodd bynnag, oherwydd ei ymddygiad blaenorol, cafodd ei waharddiad ei haneru i dair wythnos.

Bydd yn colli gemau nesaf Iwerddon yn erbyn Ffrainc, yr Eidal a’r Alban ond bydd ar gael i wynebu Lloegr ar benwythnos olaf y bencampwriaeth.

Mae chwaraewr rheng ôl Leinster, Jack Conan eisoes wedi ymuno â charfan Iwerddon cyn gêm Ffrainc ddydd Sul (Chwefror 14).

Yn dilyn anafiadau i Dan Lydiate, Tomos Williams, Johnny Williams ac Hallam Amos, mae disgwyl i Gymru hefyd alw chwaraewyr eraill i’w carfan maes o law.

 

Cymru 21-16 Iwerddon

Lleu Bleddyn

Cymru yn curo’r Gwyddelod yng Nghaerdydd