Mae Dai Davies, cyn-golwr tîm pêl-droed Cymru, wedi marw yn 72 oed.

Cafodd e ddiagnosis o ganser y pancreas y llynedd.

Yn enedigol o bentref Glanaman yn Nyffryn Aman, dechreuodd ei yrfa gydag Abertawe cyn ymuno ag Everton yn 1970.

Everton oedd pencampwyr Lloegr ar y pryd, a chanfu Davies ei hun yn drydydd dewis y tu ôl i Andy Rankin a Gordon West.

Ond arhosodd yn amyneddgar ac yn nhymor 1974-75, sefydlodd ei hun fel rhif un ym Mharc Goodison.

Ar ôl saith tymor ac 82 o gemau, dychwelodd i Gymru at Wrecsam ym 1977 gan helpu’r clwb i ennill y drydedd adran a Chwpan Cymru.

Aeth rheolwr Abertawe, John Toshack, â Dai yn ôl i Faes y Vetch yn dilyn eu dyrchafiad i’r adran gyntaf ym 1981.

Roedd y ffi o £45,000 yn fargen gyda Dai’n chwarae rhan allweddol wrth i Abertawe orffen yn chweched yn 1981-82, dim ond pedair blynedd ar ôl i’r clwb fod yn chwarae yn y Bedwaredd Adran.

Gadawodd Abertawe yn 1983, cyn dod yn chwaraewr-hyfforddwr gyda Tranmere, chwarae am gyfnodau gyda Bangor a Wrecsam eto, ac yna ymddeol yn 1987.

Enillodd e 52 o gapiau dros Gymru, gan ennill ei gap cyntaf yn erbyn Hwngari ym mis Ebrill 1975 – buddugoliaeth o ddwy gol i un, a’r tro cyntaf i Hwngari golli yn Stadiwm Nep am fwy na hanner can mlynedd.

Roedd yn rhan o’r tîm a gyrhaeddodd rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth Cenhedloedd Ewrop yn 1976, a’i ymddangosiad olaf dros Gymru oedd gêm yn erbyn Ffrainc ar 2 Mehefin 1982.

Cafodd hefyd ei urddo i Orsedd y Beirdd yn 1978.

Teyrngedau

Mewn trydariad, dywedodd Clwb Pel-droed Abertawe: “Gorffwys mewn hedd, Dai Davies. Mae pawb yn Ninas Abertawe yn anfon eu cydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau cyn-gôlgeidwad yr Elyrch, Dai Davies, a fu farw yn dilyn ei frwydr gyda chanser.”

Dywedodd Sefydliad Cyn-chwaraewyr Everton: “Trist yw adrodd am farwolaeth cyn-gôlgeidwad Everton, Dai Davies. Mae ein meddyliau gyda’i deulu.”

Roedd ei gyd-chwaraewr yn Wrecsam, Mickey Thomas, ymhlith y llu o gyn-chwaraewyr a dalodd deyrnged iddo.

“Newyddion trist am farwolaeth Dai Davies, fy nghyn-gydchwaraewr yn nhîm Wrecsam a Chymru,” meddai Mickey Thomas, “Cymeriad a phêl-droediwr gwych y byddwn yn gweld ei eisiau.”

‘Llysgennad enfawr i iaith a diwylliant Cymru’

Ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru, dywedodd Ian Gwyn Hughes, y Pennaeth Cyfathrebu, a weithiodd gyda Davies am sawl blwyddyn ym myd y cyfryngau:

“Rwy’n cofio yn 1970 pan wylies i Dai yn chwarae’n fyw am y tro gyntaf, i dîm D23 Cymru yn erbyn Lloegr yn y Cae Ras. Roedd o’n anhygoel yn y gêm ddi-sgôr.”

“Mae gen i atgofion gwych o wylio Dai dros y blynyddoedd yn chwarae i Abertawe, Everton a Wrecsam yn ogystal â’r tîm rhyngwladol. Ar y pryd ‘doedd gen i ddim syniad y byddwn i’n mynd ymlaen i weithio’n agos gyda Dai yn y cyfryngau.”

“Roeddem ni wedi gweithio ar nifer o gemau gyda’r BBC a S4C, yn ogystal â’r sioe Gôl. Fel gohebydd roedd Dai yn siarad yn ddi-flewyn ar dafod ac yn cael ei barchu gan bawb.

“Fel arwydd o’i gyfraniad at y Gymraeg, cafodd Davies ei wahodd i Orsedd y Beirdd yn 1978.

“Roedd Dai yn llysgennad enfawr i iaith a diwylliant Cymru, fel cawr o bersonoliaeth ar ac oddi-ar y cae. Roedd hi’n bleser i adnabod Dai.”

Sylwebydd

Yn fwyaf diweddar, roedd e wedi bod yn wyneb a llais cyfarwydd ar sylwebaethau Sgorio ar S4C.

Trydarodd Sgorio: “Roedd Dai yn aelod allweddol o’r tîm am flynyddoedd lawer – yn arbenigwr craff a gonest, yn fentor heb ei ail ac yn ffrind i bawb ar y cynhyrchiad.”

Mae sylwebydd Sgorio, Dylan Ebenezer, wedi talu teyrnged iddo gan ei alw’n “gawr go iawn,” yn “gymeriad enfawr” ac yn “arwr i fi’n blentyn”.

Fe wnaeth cyn-ymosodwr Cymru, John Hartson, a fu hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Davies ar Sgorio, drydar ei gydymdeimlad hefyd.

Ysgrifennodd Hartson: “Meddyliau gyda Dai Davies, ei deulu a’i ffrindiau…

“Roeddwn i’n adnabod Dai yn dda iawn – roedd bob amser eisiau eich helpu chi. Gŵr bonheddig go iawn.

“Ces i amseroedd gwych ochr yn ochr â Dai gyda S4C a Sgorio. RIP Legend.”

Ar raglen Dros Ginio ar Radio Cymru, dywedodd y sylwebydd Sgorio, Nic Parry:

“Roedd o bob amser yn gefnogol, wastad yn fodlon cynnig ei help pan o’n i angen cyfweliad neu wybodaeth…

“Yn nes ymlaen yn ei yrfa, [roedd] wastad yn barod i roi gair o gyngor – ac yn rhyfedd iawn dyna un o’r pethau mae’r pêl-droedwyr fuodd yn chwarae gyda fo yn ei ddweud amdano fo…

“Mae hynny yn cynnwys cyn golwr Cymru Neville Southall, oedd yn dweud mai yr hyn roedd o yn ei gofio am Dai – pan oedd angen cefnogaeth pan oeddech chi ar i lawr, doedd neb gwell i’ch codi chi, i’ch dyrchafu chi, ac mi oedd o’n cyflawni y dyletswydd yna at ei gyd-ddyn… mae hynna yn rhywbeth gwerthfawr iawn y bydda’ i’n cofio amdano fo.”

A dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C:

“Roedd Dai Davies yn aelod allweddol o dîm Sgorio am flynyddoedd lawer ac yn ffrind annwyl i bawb. Yn ddyn cynnes a charedig, roedd Dai yn ddadansoddwr craff a gwybodus a doedd e’n sicr ddim yn ofn mynegi ei farn yn ddi-flewyn ar dafod.

“Roedd y byd pêl-droed yn ei barchu’n fawr iawn fel un o gôl-geidwaid gorau i chwarae dros Gymru. Heb os, mi fydd colled enfawr ar ei ôl. Rydyn ni’n cydymdeimlo’n fawr gyda’i deulu.”

Mae Dai Davies, a oedd gynt yn briod ag Ann, yn gadael ei ail wraig, Judy, a’i blant, Gareth, Rhian a Bethan.

Cyn gôl geidwad Cymru wedi cael diagnosis o ganser y pancreas

Teulu Dai Davies wedi galw ar bobol i rannu straeon, negeseuon ac atgofion