Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi galw tri chwaraewr arall i garfan Cymru.

Daw hyn yn dilyn anafiadau i Dan Lydiate, Tomos Williams, Johnny Williams ac Hallam Amos, ym muddugoliaeth Cymru yn erbyn Iwerddon ar benwythnos agoriadol y Bencampwriaeth.

Mae Lydiate allan o weddill y Bencampwriaeth ac mae asesiadau pellach yn cael eu cynnal ar y chwaraewyr eraill dros y dyddiau nesaf.

Bydd y canolwr Willis Halaholo, y blaenasgellwr James Botham, a’r mewnwr Lloyd WIlliams, sydd yn chwarae i Gleision Caerdydd, yn ymuno â’r garfan cyn i Gymru deithio i Murrayfield i wynebu’r Alban.

Yn wreiddiol o Seland Newydd, mae Willis Halaholo yn gymwys i chwarae i Gymru drwy breswyliad – cafodd ei enwi yng ngharfan gyntaf Wayne Pivac yn 2019 i wynebu’r Barbariaid ond bu rhaid iddo dynnu nôl oherwydd anaf i’w ben-glin.

Enillodd James Botham, ŵyr y cyn-gricedwr enwog Ian Botham, ei gap rhyngwladol cyntaf y llynedd ac mae Lloyd Williams yn dychwelyd i’r garfan ar ôl cael ei gynnwys yn nhîm Cymru am y tro cyntaf ers 2016 yn ystod gemau’r hydref.

Bydd Cymru yn wynebu’r Alban ddydd Sadwrn, Chwefror 13, ac mae’r gic gyntaf am 4.45.

Cymru 21-16 Iwerddon

Lleu Bleddyn

Cymru yn curo’r Gwyddelod yng Nghaerdydd