Ni fydd canolwr Gleision Caerdydd, Willis Halaholo, ar gael i wynebu’r Barbariad gyda Chymru wedi iddo gael anaf i’w ben-glin.
Bydd yn gorfod cael llawdriniaeth ar ei ben glin ac mae’n debygol y bydd o ddim yn holliach am gyfnod sylweddol o amser.
Mae Willis Halaholo yn wreiddiol o Seland Newydd ond mae’n gallu chwarae i Gymru drwy breswyliad.
Mae canolwr y Gweilch Scott Williams wedi cymryd ei le yng Ngharfan Cymru.
Dywed datganiad gan Undeb Rygbi Cymru: “Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau fod Willis Halaholo wedi dioddef anaf i’w ben glin yn ystod gêm Gwpan Sialens Ewropeaidd yn erbyn Leicester Tigers ddydd Sadwrn.”
“Bydd y canolwr yn derbyn llawdriniaeth wythnos nesaf cyn dechrau’r broses adferiad gyda thîm meddygol y rhanbarth.”