Mae timau criced Morgannwg a’r Tân Cymreig wedi cyhoeddi rhestr eu gemau ar gyfer y tymor i ddod, gyda’r newyddion y bydd llai o griced na’r disgwyl yn cael ei chwarae y tu allan i Gaerdydd.
Ond mae Hugh Morris, prif weithredwr Morgannwg, yn mynnu bod Clwb Criced Morgannwg “wedi ymrwymo i fynd â chriced o gwmpas Cymru”.
O ganlyniad i gynnal cystadleuaeth newydd sbon y Can Pelen rhwng canol Gorffennaf a chanol Awst, roedd disgwyl y byddai Morgannwg yn symud nifer sylweddol o’u gemau i Abertawe, Casnewydd a Bae Colwyn.
Ond dwy gêm yn unig fydd yng Nghasnewydd, ac un gêm yr un yn Abertawe a Bae Colwyn.
Bydd tymor Morgannwg yn dechrau gyda gêm dridiau yn erbyn Prifysgolion Caerdydd yr MCC ar Ebrill 13, a’r tymor sirol yn dechrau gartref yng Ngerddi Sophia yn erbyn Middlesex yn y Bencampwriaeth ar Ebrill 19.
Byddan nhw’n croesawu Durham i San Helen yn Abertawe am gêm Bencampwriaeth yn dechrau ar Fehefin 28.
A Swydd Nottingham fydd yn ymweld â Bae Colwyn ar Awst 29.
Bydd y Bencampwriaeth yn dod i ben gyda thaith i Gaerwrangon ar Fedi 22.
Gemau undydd Morgannwg
Bydd y gystadleuaeth 50 pelawd, Cwpan Royal London, yn dechrau gyda thaith i Derby ar Orffennaf 22, gyda’r gêm gartref gyntaf yng Nghaerdydd yn erbyn Surrey ar Orffennaf 24.
Taith i Northampton fydd yn cloi’r grŵp ar Awst 9.
Bydd Morgannwg yn herio Swydd Efrog a Swydd Nottingham yng Nghasnewydd, y naill ar Orffennaf 31, a’r llall ar Awst 2.
Bydd y ffeinal yn Trent Bridge yn Nottingham ar Fedi 19.
Bydd y gystadleuaeth ugain pelawd yn dechrau gyda thaith i Chelmsford i herio Essex ar Fai 29, a’r gêm gartref gyntaf ddeuddydd yn ddiweddarach yn erbyn Surrey yng Nghaerdydd.
Gêm yn erbyn Sussex yng Nghaerdydd ar Orffennaf 12 fydd yn cloi’r grwpiau, a bydd Diwrnod y Ffeinals yn cael ei gynnal yn Edgbaston ar Fedi 5.
Can Pelen – gemau’r Tân Cymreig
Bydd holl gemau’r grŵp yng nghystadleuaeth Can Pelen newydd yn cael eu cynnal rhwng Gorffennaf 17 ac Awst 15.
Bydd pob tîm yn herio’i gilydd unwaith, heblaw’r timau sydd wedi cael eu paru, sef Tân Cymreig a Southern Brave, y tîm yn Southampton.
Bydd y rheiny’n herio’i gilydd ddwywaith – unwaith gartref ac unwaith oddi cartref.
Taith i’r Oval i herio’r Oval Invincibles sydd gan y tîm o Gaerdydd i ddechrau’r gystadleuaeth, a’r gêm honno’n cael ei chynnal ar Orffennaf 17.
Byddan nhw wedyn yn croesawu Southern Brave i Gaerdydd ddeuddydd yn ddiweddarach.
Taith i Trent Bridge i herio’r Trent Rockets fydd ganddyn nhw ar Orffennaf 25, cyn croesawu Birmingham Phoenix i Gaerdydd dridiau’n ddiweddarach.
Ar Awst 1, bydd Northern Superchargers yn teithio i Gaerdydd.
Taith i Southampton fydd ganddyn nhw wedyn ar Awst 7, cyn dychwelyd i Gaerdydd i herio London Spirit ddeuddydd yn ddiweddarach.
Byddan nhw’n gorffen y gemau grŵp gyda thaith i Old Trafford i herio Manchester Originals ar Awst 13, cyn i’r ffeinal gael ei gynnal ar Awst 15.