Mae carfan Cymru wedi cael ei ddewis ar gyfer gwersyll ymarfer yng ngwesty’r Vale a fydd yn dechrau’r paratoadau ar gyfer ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd Merched FIFA 2023.

Bydd Cymru’n ymgynnull am wersyll hyfforddi am y tro cyntaf ers i Jayne Ludlow adael ei swydd fel rheolwr.

Bydd y grŵp yn cysylltu rhwng Chwefror 15 a 20 o dan arweiniad cyfarwyddwr technegol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, David Adams.

Bydd Adams yn cael cymorth gan yr amddiffynnwr, Loren Dykes, sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, a chyn-ganolwr Cymru Matty Jones.

Yr unig chwaraewr sydd ddim ar gael yw Megan Wynne, sydd yn parhau ei ymarfer i ddychwelyd i’r cae ar ôl anaf ACL.

Bydd yr wythnos yn dechrau’r paratoadau ar gyfer rownd rhagbrofol Cwpan y Byd Merched FIFA 2023 a fydd yn dechrau ym mis Medi- gyda Chymru’n darganfod eu gwrthwynebwyr ar 30 Ebrill. B

Bydd gemau cyfeillgar dros y chwe mis nesaf – bydd rheiny’n cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.

“Cymysgedd dda o brofiad a chwaraewyr ifanc”

“Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r gwersyll wythnos nesaf gyda gweddill y tîm hyfforddi,” meddai David Adams.

“Rydyn ni’n gobeithio cael camp bositif a proffesiynol gyda thargedau personol i bob chwaraewr wrth iddyn nhw ddechrau paratoi tuag at yr ymgyrch cwpan y byd.”

Ychwanegodd Loren Dykes: “Bydd hi’n anrhydedd enfawr cael gweithio gyda’r merched yma wythnos nesaf.

“Mae’n garfan hynod o dalentog gyda chymysgedd dda o brofiad a chwaraewyr ifanc.

“Rwy’n edrych ymlaen at y cyfle ac rwy’n gobeithio byddai’n medru cael effaith positif ar y merched yn ystod y camp.”

Y garfan

Cymru: Laura O’Sullivan (Caerdydd), Claire Skinner (Abertawe), Olivia Clark (Coventry United), Poppy Soper (Plymouth Argyle), Rhiannon Roberts (Lerpwl), Gemma Evans (Bristol City), Maria FrancisJones (Caerdydd), Charlie Estcourt (London Bees), Hayley Ladd (Manchester United), Josie Geen (Tottenham Hotspur), Nadia Lawrence (Caerdydd), Elise Hughes (Blackburn Rovers- On loan from Everton), Anna Filbey (Celtic- ar fenthyg Tottenham Hotspur), Sophie Ingle (Chelsea), Angharad James (Reading), Jess Fishlock (Reading- ar fenthyg o OL Reign), Carrie Jones (Manchester United), Kylie Nolan (Caerdydd), Chloe Williams (Manchester United), Kayleigh Green (Brighton & Hove Albion), Natasha Haeding (Reading), Rachel Rowe (Reading), Helen Ward (London Bees), Lily Woodham (Reading), Georgia Walters (Blackburn Rovers), Ffion Morgan (Crystal Palace).