Prin y byddai neb, dri mis yn ôl, wedi darogan bod hat-tric o fuddugoliaethau sylweddol ac arwyddocaol ar y gorwel i Gymru yn y byd dartiau…

Fis Tachwedd y llynedd, cododd Cymru dlws Cwpan y Byd wrth i Jonny Clayton a Gerwyn Price ddod i’r brig.

Wnaeth hynny esgor ar fwy o lwyddiant i’r Cymry, gyda Gerwyn yn dod yn bencampwr dartiau’r byd yng nghystadleuaeth y PDC ddechrau Ionawr.