Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhuddo o beidio â chydnabod “methiannau, targedau a fethwyd, a’r addewidion a dorrwyd”.

Ddiwedd mis Ionawr, mi gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2020, ac mae’r ddogfen yn amlinellu ei chyraeddiadau yn ystod y flwyddyn honno.

Yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 9), mi dynnodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, sylw at yr adroddiad, gan gynnig beirniadaeth hallt o’r Llywodraeth.

“Yn yr adroddiad dydych chi ddim yn cydnabod eich methiannau, targedau a fethwyd, a’r addewidion a’u torrwyd,” meddai.

“Mi ddywedoch y byddech chi’n gwaredu tlodi tanwydd erbyn 2018, ond wnaethoch chi fethu. Mi ddywedoch y byddech chi’n gwaredu tlodi plant erbyn 2020, ond wnaethoch chi fethu.

“Mi ddywedoch y byddech yn torri allyriadau gan 40% erbyn blwyddyn nesa’, ond wnaethoch chi fethu.”

Wrth ymateb i hynny, dywedodd Mark Drakeford fod Adam Price “yn llawn gwawd” ac mi dynnodd sylw at lwyddiannau’r Llywodraeth, gan gynnwys tai fforddiadwy a phrentisiaethau.

“Dyma wahaniaethau go iawn ym mywydau pobol go iawn ym mhob cwr o Gymru,” meddai.

“Dyna dw i’n sefyll drosto fe. Dyna mae’r Blaid Lafur yn sefyll drosto fe.

“Efallai bod yn well ganddo siarad gwag annibyniaeth a syniadau aruchel eraill.

“Ond mi fyddwn ni’n delio â’r pethau rheiny sy’n gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobol, a dyna pam eu bod nhw’n gwybod fod y Llywodraeth yma yn Llywodraeth sydd ar eu hochr hwythau.”

“Anysbrydoledig”

Ym mis Medi, mi wnaeth swyddogion y Blaid Lafur rannu ‘Drafft Terfynol Dogfen Bolisi’ gydag aelodau’r blaid. Roedd disgwyl y byddai’r cam yn helpu â datblygiad maniffesto Llafur Cymru at etholiad eleni.

Mewn darn blog a gafodd ei ysgrifennu ym mis Rhagfyr, wnaeth Darren Williams, Ysgrifennydd grŵp Welsh Labour Grassroots, ladd ar y ddogfen gan ei galw’n “saff ac anysbrydoledig”.

Cyfeiriodd Adam Price at y sylwadau yma ddoe.

“Mi allwch chi wfftio fy meirniadaeth innau … ond allwch chi wfftio geiriau’r bobol a ymgyrchodd drosoch chi?” meddai

Wrth ymateb i hynny, dywedodd y prif weinidog y byddai gweledigaeth Llafur Cymru yn cael ei chyhoeddi yn ei chyfanrwydd yn ei maniffesto.

“Pan fydd yr Aelod wedi ei weld, mi fydd yn medru cynnig beirniadaeth ohono,” meddai.

“Ond dyw e ddim wedi ei weld. A dyw’r bobol mae e’n eu dyfynnu ddim wedi ei weld e chwaith.”

Dyfynnu ‘uwch swyddog’

Yn gynt yn y sesiwn, mi dynnodd Adam Price sylw at ddogfen fewnol gan y Llywodraeth a gafodd ei lluio gan unigolyn a fu’n “gyfarwyddwr anweithredol o’ch Llywodraeth ers bron i ddegawd”.

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, mae’r ddogfen yma yn nodi bod Llywodraeth Lafur Cymru yn fwy parod i roi’r argraff eu bod yn gweithredu newid na diwygio pethau go iawn.

“Fel arfer, mae yna ymdrech ticio bocsys er mwyn sicrhau bod modd dweud bod addewidion Maniffesto a Rhaglenni wedi’u gwireddu,” meddai Adam Price.

“Ond dydw i erioed wedi gweld ymdrech yn gyffredinol i asesu a oes yna gynnydd o ran canlyniadau disgwyliedig y Rhaglen.

“Dan y meddylfryd presennol, mae’r status quo yn cael ei blaenoriaethu dros ddelifro [newid].”