Mae technegydd meddygol brys sydd wedi’i ddisgrifio fel “arweinydd ei gymuned” wedi marw yn yr ysbyty gyda Covid-19.

Ymunodd Alan Haigh, 59 o Farnborough yn Hampshire, â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn 1998 a gweithiodd i’r gwasanaeth cludo cleifion yng Ngheinewydd a Llanbedr Pont Steffan.

Daeth yn gynorthwyydd gofal brys yn 2008 ac yn ddiweddarach, cymhwysodd fel technegydd meddygol brys, ac fe gafodd ei leoli yng Nghaerfyrddin, Hendy-gwyn ar Daf a Cheinewydd.

Roedd yn byw yng Nghwmduad yn Sir Gaerfyrddin, ac mae’n gadael ei wraig Sian a’u meibion Ryan, 26, a Colin, 30, a’u hwyres Lucy, sy’n 17 wythnos oed.

‘Cydweithiwr poblogaidd’

Dywed Jason Killens, prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mai “gyda thristwch mawr a chalon drom rydym yn cyhoeddi marwolaeth Alan Haigh, cydweithiwr poblogaidd gyda mwy na dau ddegawd o wasanaeth”.

“Dros y blynyddoedd, helpodd Alan gannoedd os nad miloedd o bobol, ac ni fyddai llawer ohonyn nhw yn fyw heddiw oni bai am ei sgil a’i ymrwymiad,” meddai.

“Mae cydweithwyr yn disgrifio Alan fel cymeriad ‘llawn bywyd’ a oedd wrth ei fodd yn sgwrsio.

“Roedd yn gefnogwr Manchester United ac yn frwd dros geir, yn ogystal â bod yn arweinydd yn ei gymuned a drefnodd ddigwyddiadau cwis yn ei neuadd bentref leol.

“Rydym yn canolbwyntio nawr ar gefnogi ei deulu a chydweithwyr yn eu profedigaeth ar yr adeg anodd hon, y bydd llawer ohonyn yn y gwaith heddiw a thros yr wythnosau nesaf yn parhau i ddarparu gofal i’r rhai mewn angen.”