Mae busnesau newydd yng Nghymru’n derbyn hanner y cyfartaledd Prydeinig o ran cymorth ariannol gan Lywodraeth Prydain yn ystod y pandemig coronafeirws, yn ôl dadansoddiad gan y Blaid Lafur.

Ar gyfartaledd, £500,000 gafodd busnesau yng Nghymru gan Lywodraeth Prydain, sef hanner y cyfartaledd drwy wledydd Prydain.

Cafodd busnesau yn ne-ddwyrain Lloegr a Llundain gyfanswm o fwy na £700m o gyllid, tra bod rheini yng ngogledd Lloegr, Swydd Efrog a Chanolbarth Lloegr wedi derbyn £140m, yn ôl data.

Roedd y dyfarniad cyfartalog ar gyfer busnes newydd yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, gogledd-orllewin Lloegr, gorllewin Canolbarth Lloegr a Swydd Efrog yn is na’r dyfarniad ar gyfer busnes yn Llundain a’r de-ddwyrain.

Anghydbwysedd

Mae Ed Miliband, llefarydd busnes Llafur yn San Steffan, yn cyhuddo Llywodraeth Geidwadol Prydain o “atgyfnerthu anghydbwysedd economaidd yn ein gwlad”.

Roedd ychydig dros ddwy ran o dair o geisiadau ar gyfer Cronfa’r Dyfodol – a gafodd ei lansio er mwyn helpu i ddiogelu sector arloesi’r Deyrnas Unedig yn ystod yr argyfwng coronafeirws – yn dod o Lundain a de-ddwyrain Lloegr.

Edrychodd Llafur ar ddyraniadau cyllid ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus ers lansio’r cynllun fis Ebrill y llynedd hyd at Ragfyr 17, pan gafodd y data diweddaraf ei gyhoeddi.

Y dyfarniad cyfartalog i fusnesau yn Llundain oedd £1,058,422, ac yng ngogledd-ddwyrain roedd yn £892,857, yn ôl dadansoddiad Llafur o ddata Cronfa’r Dyfodol.

Yn yr Alban, dim ond traean o’r cyfartaledd Prydeinig oedd y dyfarniad cyfartalog, ar £352,941, tra’r oedd Cymru ar hanner cyfartaledd cenedlaethol ar £500,000.

Mae data hefyd yn dangos bod y gyfradd gymeradwyo ar gyfer ceisiadau yng ngogledd-orllewin Lloegr, yr Alban, Cymru a gorllewin Canolbarth Lloegr yn is na’r gyfradd gymeradwyo o 84% yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr.

Ymateb

“Er bod y Llywodraeth yn sôn am gefnogi gogledd a Chanolbarth Lloegr, mae’r realiti’n hollol wahanol,” meddai Ed Miliband.

“Drwy fuddsoddi llawer mwy mewn busnesau newydd yn ne Lloegr a gwasgu rhannau eraill o’r wlad allan, maen nhw’n atgyfnerthu anghydbwysedd economaidd yn ein gwlad.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth eu bod “wedi darparu £280bn o gymorth na welwyd ei debyg o’r blaen i fusnesau sydd wedi’u heffeithio gan Covid ym mhob gwlad a rhanbarth yn y Deyrnas Unedig”.