Mae protestwyr ym Myanmar wedi anwybyddu’r gwaharddiad ar brotestiadau yn y wlad er mwyn dangos eu dicter ar ôl i’r arweinydd Aung San Suu Kyi gael ei symud o’i swydd gan y lluoedd arfog, sydd wedi bod yn chwilio’i swyddfa.

Fe fu protestiadau yn ninasoedd Yangon a Mandalay, dwy ddinas fwya’r wlad, yn ogystal â’r brifddinas Naypyitaw a sawl dinas arall.

Mae’r protestwyr yn mynnu bod yr arweinydd yn cael dychwelyd i’w swydd, a’i bod hi a’i llywodraeth yn cael rhyddid i lywodraethu.

Daw hyn ar ôl iddyn nhw gael eu cadw yn y ddalfa am eu rhan mewn protestiadau wrth i’r lluoedd arfog atal sesiwn senedol ar Chwefror 1.

Mae’r lluoedd arfog yn mynnu nad oedd canlyniad etholiad y wlad ym mis Tachwedd yn ddilys, ar ôl i blaid Aung San Suu Kyi sicrhau buddugoliaeth swmpus – ac mae’r comisiwn etholiadol wedi gwrthod yr honiadau.

Fe fu’r heddlu’n llawdrwm yn ninasoedd Naypyitaw a Mandalay ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 9), gan ddefnyddio chwistrell a chanonau i dawelu’r torfeydd, ac fe wnaethon nhw danio rhybudd i geisio eu symud oddi yno, a chafodd dynes ei hanafu a’i gadael mewn cyflwr difrifol yn ôl adroddiadau, gyda rhai yn dweud iddi gael bwled yn ei phen.

Ond mewn lluniau a gafodd eu dangos ar y teledu, roedd honiadau mai’r protestwyr ac nid yr awdurdodau oedd yn ymddwyn yn dreisgar.

Ddydd Llun (Chwefror 8), cafodd gwaharddiad ar gynulliadau o fwy na phump o bobol eu cyflwyno yn y wlad, a does dim hawl cynnal gorymdeithiau mewn cerbydau ac mae cyrffiw o 8 o’r gloch y nos hefyd wedi’i gyflwyno.

Torri i mewn i swyddfa

Aeth y lluoedd arfog i mewn i swyddfeydd Aung San Suu Kyi neithiwr (nos Fawrth, Chwefror 9), gan fynd â dogfennau a chyfrifiaduron oddi yno.

Mae’r pencadlys ynghau erbyn hyn.

Mae’r Unol Daleithiau wedi condemnio’r trais yn erbyn y protestwyr, gan ddweud y byddan nhw’n cynnig cymorth iddyn nhw.

Mae Seland Newydd hefyd wedi atal pob cyswllt milwrol a gwleidyddol a chymorth i Myanmar, a bydd Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn ystyried y sefyllfa ddiwedd yr wythnos ar gais Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.