Mae Donald Trump wedi colli brwydr agoriadol allweddol ar ddiwrnod cyntaf ei achos uchelgyhuddo, wrth i Senedd yr Unol Daleithiau bleidleisio dros barhau â’r broses er ei fod e wedi gadael ei swydd.

Agorodd yr achos gyda fideo o’r ymosodiad ar y Gyngres ym mis Ionawr, gyda’r cyn-Arlywydd yn galw ar y dorf i orymdeithio i’r Capitol a dweud wrthyn nhw am “ymladd fel y diawl” i wrthdroi ei golled etholiadol yn erbyn Joe Biden.

Ar ôl cyflwyniad y Democratiaid, daeth dadleuon gan dîm amddiffyn Trump, a oedd yn mynnu bod ei sylwadau’n cael eu diogelu gan y Gwelliant Cyntaf ac nad oes modd ei uchelgyhuddo fel cyn-Arlywydd.

Donald Trump yw’r arlywydd cyntaf i wynebu achos uchelgyhuddo ar ôl gadael ei swydd a’r cyntaf i gael ei uchelgyhuddo ddwywaith.

Cefndir

Roedd yr ymosodiad ar y Capitol wedi syfrdanu’r byd wrth i gannoedd o derfysgwyr dorri mewn i’r adeilad er mwyn ceisio atal buddugoliaeth yr Arlywydd Biden.

Bu farw pump o bobol mewn digwyddiad na welwyd ei debyg erioed o’r blaen yn hanes yr Unol Daleithiau.

“Mae hynny’n drosedd ddifrifol ac yn gamymddygiad,” meddai’r Democrat Jamie Raskin yn ei sylwadau agoriadol.

“Os nad yw hynny’n rheswm dros uchelgyhuddo, yna does dim y fath beth.”

Mae cyfreithwyr Donald Trump yn mynnu nad yw’n euog gan mai ffordd o siarad oedd ei sylwadau tanllyd.