Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam bellach yn nwylo’r actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney ar ôl iddyn nhw ei brynu.
Mae cwmni RR McReynolds wedi cymryd rheolaeth 100% o’r clwb, ac mae cyfnod Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr wedi dod i ben.
Maen nhw wedi buddsoddi £2m ar unwaith fel rhan o’r cytundeb.
The @Wrexham_AFC handover is complete! We’re toasting with a limited-edition bottle of @AviationGin and I am rebranding as Wrob. Both of which I am apparently legally obligated to do as I've been informed Ryan now owns my life rights. My lawyer is currently looking into it. pic.twitter.com/f4fdpJtlIq
— Wrob McElhenney (@RMcElhenney) February 9, 2021
Can’t get to the Racecourse Ground fast enough. Game on. #UpTheTown @Wrexham_AFC ??????? pic.twitter.com/tOZ0vMZcSt
— Wryan Reynolds (@VancityReynolds) February 10, 2021
Blaenoriaethau
Dywed y perchnogion newydd y bydd eu buddsoddiad yn helpu nifer o fentrau ar y Cae Ras, gan gynnwys £500,000 i ddatblygu pêl-droed i ferched a chyfranogiad ar sawl lefel.
Yn ogystal, fe fydd prynu chwaraewyr newydd i’r tîm cyntaf yn flaenoriaeth “fel bod y clwb yn y safle gorau posib ar gyfer ffenest drosglwyddo’r haf”.
Bydd gêm Wrecsam yn erbyn Notts County yn cael ei darlledu gan BT Sport 1 nos Sadwrn (Chwefror 13, 5.20yh).