Roedd Mick McCarthy yn bles neithiwr (nos Fawrth, Chwefror 9) wrth wylio tîm pêl-droed Caerdydd yn ennill o 2-1 yn Rotherham yn y Bencampwriaeth.
Rhwydodd Joe Bennett y gôl fuddugol bum munud cyn y diwedd oddi ar groesiad Josh Murphy.
Roedden nhw wedi bod ar y blaen yn yr hanner cyntaf wrth i Sheyi Ojo sgorio ar ôl cael ei ryddhau gan Harry Wilson, cyn i’r tîm cartref unioni’r sgôr drwy Matt Crooks oddi ar groesiad Michael Smith.
“Maen nhw i gyd yn fuddugoliaethau rydyn ni’n brwydro’n galed amdanyn nhw,” meddai Mick McCarthy ar ddiwedd y gêm.
“Mae rhai yn ymddangos yn fwy anodd na’i gilydd jyst oherwydd natur y gêm.
“Doedd yr amodau ddim yn wych ac roedd yn rhaid i ni frwydro gam wrth gam gyda chiciau rhydd, tafliadau a chiciau cornel.
“Roedd yn waith caled.
“Mae safon yn y garfan ond rhaid i ni ddangos ein bod ni’n brwydro.
“Roedd yn rhaid i ni chwarae am eiliadau – dyna’r math o gêm oedd hi ac ro’n i’n meddwl bod y bois wedi ymdopi’n dda â hi.
“Dw i’n siomedig gyda’r gôl wnaethon ni ei hildio, ond roedd y ddwy gôl gawson ni’n dda iawn.
“Dw i wrth fy modd gyda’r perfformiad.”
Yn ôl y rheolwr, dylai’r Adar Gleision fod yn edrych uwch eu pennau yn hytrach nag oddi tanyn nhw.
“Yn y gynghrair hon, allwch chi ddim dangos y safon yna oni bai eich bod chi’n brwydro i ennill yn gyntaf,” meddai.
“Rhaid i chi sicrhau nad ydych chi’n cael eich curo nac yn cael eich dal wrth dorri.
“Rhaid i chi fod yn bwrpasol yna fe gewch chi eich cyfleoedd.”