Bydd porthladdoedd Abergwaun, Caergybi a Doc Penfro yn serennu mewn cyfres o ffilmiau dogfen byrion sy’n ymchwilio i hanes a threftadaeth diwylliannol porthladdoedd yng Nghymru ac Iwerddon a’u pwysigrwydd i dwf economaidd yn y dyfodol.

Bydd y ffilmiau, sydd hefyd yn rhoi sylw i borthladdoedd Dulyn a Rosslare yn Iwerddon, yn cyfuno hen ffilmiau hanesyddol a ffilmiau newydd i amlygu pwysigrwydd y pum tref borthladd a’r tri llwybr fferi sy’n eu cysylltu.

Yng nghanol cyfnod ansicr i borthladdoedd Cymru, nod y prosiect – sydd wedi’i arwain gan Brifysgol Aberystwyth – yw ysgogi twf economaidd a chynyddu nifer yr ymwelwyr yn y pum cymuned.

Wedi i gyfnod pontio Brexit ddod i ben, mae’r cwmni fferi Stena Line wedi gweld gostyngiad o 70% mewn cludo nwyddau ar lwybrau rhwng Cymru ac Iwerddon, a chyhoeddodd y cwmni fis Ionawr y bydd deuddeg taith rhwng Cymru ag Iwerddon yn cael eu canslo.

Mae cwmni Brittany Ferries hefyd wedi dechrau croesfan wythnosol newydd sy’n osgoi gwledydd Prydain gan deithio rhwng Cherbourg a Rosslare.

‘Hanes cyfoethog’

“Dyma gyfle gwych i amlygu treftadaeth ddiwylliannol cymunedau’r porthladdoedd hyn, trwy adrodd hanes cyfoethog y llefydd yma sydd ar ffiniau daearyddol ein gwledydd ond sydd hefyd yn llwybrau teithio pwysig ar gyfer pobl a nwyddau sy’n croesi Môr Iwerddon,” meddai’r Athro Peter Merriman, arweinydd tîm y prosiect yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.

“Mae twristiaeth ddiwylliannol yn elfen bwysig o economi Cymru ac Iwerddon a phan fydd amgylchiadau’n caniatáu, rydym yn awyddus i ddenu ymwelwyr newydd o dramor i’r trefi yma, yn ogystal ag ennyn diddordeb cymunedau lleol yn nhreftadaeth eu porthladdoedd, er mwyn helpu i fynd i’r afael â heriau economaidd.”

Mae’r prosiect hefyd yn awyddus i glywed gan aelodau o’r cyhoedd sydd â chysylltiadau agos â’r porthladdoedd dan sylw ac sy’n fodlon rhannu eu lluniau, eu ffilmiau neu eu hanesion teuluol.

“Bydd ffilmiau Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yn fframio lleisiau, lluniau a hanesion o’r pum porthladd, gan alluogi ffyrdd newydd o ymgysylltu â’r gorffennol maen nhw’n ei rannu,” meddai’r Athro Claire Connolly o Goleg Prifysgol Cork.

“Pryder mawr” am y diffyg traffig i borthladd Caergybi

Ond mae Llywodraeth Cymru yn darogan y bydd pethau’n prysuro