Mae gweinidogion wedi bod yn ceisio sicrhau’r cyhoedd am effeithlonrwydd brechlyn Rhydychen/AstraZeneca ar ôl i arbenigwyr rybuddio ei fod yn “bosib iawn” bod amrywiolyn De Affrica eisoes wedi lledaenu’n helaeth yn Deyrnas Unedig.

Roedd astudiaeth o tua 2,000 o bobl yn dangos bod y brechlyn Covid-19 yn cynnig amddiffyniad cyfyngedig rhag amrywiolyn De Affrica.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Edward Argar, heddiw (Dydd Llun, Chwefror 8) bod ymchwilwyr Rhydychen yn parhau’n hyderus y gallai’r brechlyn amddiffyn rhag salwch mwy difrifol i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan yr amrywiolyn a bod brechlynnau newydd i fynd i’r afael ag amrywiadau eraill o’r firws eisoes ar y gweill.

Dywedodd y gallai hynny olygu bod pobl yn cael eu brechu bob blwyddyn fel sy’n digwydd gyda’r brechiad ffliw.

Hyd yn hyn mae tua 147 o achosion o amrywiolyn De Affrica wedi cael eu hadnabod yn y DU ond gallai llawer mwy fod wedi’u heintio. Fe allai hyn arwain at ragor o gyfyngiadau am gyfnod hirach, yn ôl un arbenigwr.

Wrth ysgrifennu yn  The Daily Telegraph, dyweddod y gweinidog brechlynnau Nadhim Zahawi bod y brechlyn yn dal i gynnig “amddiffyniad da rhag achosion mwy difrifol o’r firws, osgoi gorfod cael triniaeth ysbyty, a marwolaeth.”