Mae’r actor Trevor Peacock wedi marw’n 89 oed.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae’r cymeriad Jim Trott, oedd ag atal dweud, yn y gyfres gomedi The Vicar Of Dibley.

Roedd wedi bod yn byw â dementia ers peth amser.

Roedd wedi ymddangos ym mhob pennod o gyfres y BBC rhwng 1994 a 2015, ond doedd e ddim yn y bennod Nadoligaidd ddiweddar.

Roedd ei gymeriad yn aelod o Gyngor Plwyf Dibley ac yn adnabyddus am ailadrodd y gair ‘No’ sawl gwaith cyn dweud ‘Yes’ wrth ateb cwestiwn, yn ogystal â’i awgrymiadau rhywiol.

Gyrfa

Cafodd Trevor Peacock ei eni yng ngogledd Llundain yn 1931, gan ymddangos ar y teledu am y tro cyntaf yn y 1960au yn ITV Television Playhouse, Comedy Playhouse a The Wednesday Play.

Fe ymddangosodd hefyd yn Madame Bovary a The Old Curiosity Shop, yn ogystal ag Eastenders, Jonathan Creek a My Family.

Yn 2007, ymddangosodd fel y prif gymeriad yn y ffilm Fred Claus, ochr yn ochr â Vince Vaughn a Paul Giamatti ac fe gafodd e ran hefyd yn Quartet gyda’r Fonesig Maggie Smith a Syr Billy Connolly.

Roedd hefyd yn gyfansoddwr caneuon, ac yn actor rheolaidd gyda theatr y Royal Exchange ym Manceinion.