DARN BARN

Yn fwy adnabyddus am ei waith ym maes miwsig, mae’r DJ Huw Stephens wedi bod yn cyflwyno cyfres yn olrhain hanes celfyddyd y Cymry ar BBC 4…

Rhaid cyfaddef fy mod i wedi cael dipyn o syndod pan ofynnodd y cwmni teledu i mi os hoffwn i gyflwyno’r gyfres The Story of Welsh Art.

Oeddwn i’n hoff o gelf weledol? Oedd gen i ddiddordeb mewn celf o Gymru? Yr ateb i’r ddau gwestiwn yma oedd: ‘yn sicr!’