Mae pum busnes garddwriaethol bach yng Nghymru wedi derbyn grantiau i’w helpu i gynhyrchu mwy o lysiau ar gyfer eu cymunedau.
Prif nod y cynllun – sy’n cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol – yw annog pobol i fwyta’n iach. Mae’r grantiau, sy’n werth rhwng £2,500 a £5,000, wedi eu dyfarnu i fentrau a chanddynt ddim mwy na phum hectar o dir cynhyrchu.