Mae un o sylwebwyr rygbi S4C yn credu y gall Cymru ddechrau meddwl am Gamp Lawn, ond bod rhaid cymryd y gêm yn erbyn yr Eidal bnawn Sadwrn o ddifrif…

Mae sylwebydd rygbi yn rhybuddio tîm rygbi Cymru nad oes lle i gymryd y gêm yn erbyn yr Eidal yn ganiataol ddydd Sadwrn, wrth iddyn nhw geisio am y Gamp Lawn.

Ond ar y llaw arall, mae Sioned Harries yn credu bod y trip i Rufain yn gyfle i arbrofi gyda’r canolwr Willis Halaholo a’r maswr Callum Sheedy.