Mae Plaid Cymru wedi bod “yn fwy radical ac yn fwy i’r chwith” na’r Blaid Lafur “am beth wmbredd o hanes diweddar Cymru”, yn ôl Adam Price.

Daw ei sylw yn dilyn cynhadledd rithwir ei blaid yr wythnos ddiwethaf, lle bu i’r arweinydd rannu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol y wlad, a hynny gydag etholiad Senedd Cymru ar y gorwel ym mis Mai.