Dyma furlun ar wal tafarn y Lion yn Nhreorci, a rhai o blant Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen sydd wedi bod yn gweithio ar y geiriau gyda Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru. Mae’r murlun yn rhan o gynllun barddoniaeth a chelfyddyd stryd, a dyma’r cyntaf o dri a fydd yn cael eu datgelu drwy Gymru – y lleill yn y Rhyl ac Aberteifi – yn adlewyrchu bröydd a gobeithion plant o ran dyfodol ein byd natur i gyd-daro â’r ‘Awr Ddaear’ ar Fawrth 27.