Rwyf wedi gwylio cryn dipyn o’r West Wing, y cyfan o Borgen ac, wrth gwrs, yn goron ar y cyfan, Byw Celwydd.

Mae gennyf ddarlun yn fy mhen, felly, o waith llywodraethau’r byd – a’r hyn sy’n digwydd tu cefn i’r llenni.

Ar sail yr uchod gallaf ddychmygu ein Prif Weinidog yn brasgamu drwy goridorau prysur ein Llywodraeth; gyda’i weison sifil proffesiynol yr olwg tu cefn iddo.