Mae S4C yn dweud bod 42,200 wedi gwylio cystadleuaeth Cân i Gymru yr wythnos ddiwethaf, a’u bod “wedi derbyn ymateb da iawn gan y gwylwyr”.

Ond fe fu cwynion am broblemau sain ar gychwyn y rhaglen, gyda feedback gwichlud i’w glywed yn ystod perfformiad y cystadleuydd cyntaf.