Mae ffilmio’r gyfres deledu Rownd a Rownd wedi ei atal unwaith eto oherwydd pryderon am gynnydd mewn achosion o Covid-19.

Dyma’r eildro mewn mis i gwmni cynhyrchu Rondo benderfynu atal ffilmio’r gyfres boblogaidd.

Cafodd ffilmio ei ohirio yn wreiddiol ar ôl i sawl achos o Covid-19 gael eu cofnodi ymhlith staff swyddfa Rondo yng Nghibyn ger Caernarfon.

Mae’r gyfres wedi ei ffilmio ar leoliad ers 25 mlynedd ond oherwydd y sefyllfa yn ymwneud â Covid-19, bu’n rhaid adeiladu setiau pwrpasol newydd yn Llangefni ac yng Nghaernarfon y llynedd.

Ailddechreuodd y ffilmio ddechrau’r wythnos ond ar ôl gwrando ar bryderon, cafodd staff sy’n gweithio ar y gyfres wybod ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 23) y byddai ffilmio yn cael ei atal tan “fydd y sefyllfa a’r amodau yn fwy ffafriol.”

Daw’r penderfyniad hefyd wedi i Huw Gethin Jones, golygydd gyda chwmni Rondo, farw yn sgil cymhlethdodau’n ymwneud â Covid-19.

Mewn llythyr at staff, dywed cwmni cynhyrchu Rondo bod iechyd a diogelwch gweithwyr yn “flaenoriaeth lwyr” iddyn nhw a bod y gyfres “wedi bod yn gymorth eithriadol i’r gynulleidfa” dros y misoedd diwethaf.

Aeth y llythyr yn ei flaen i ddweud bod y cwmni yn “cydweithio gyda phob undeb a chorff i fedru sicrhau gweithio o dan amodau mor ddiogel â phosib wrth hefyd roi mesurau yn eu lle sy’n caniatáu i ddrama barhau dan amgylchiadau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen”.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, y gyfradd achosion ym Môn yw 114 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth, sef y gyfradd uchaf yng Nghymru.

Mae golwg360 wedi gofyn i gwmni cynhyrchu Rondo am ymateb.

Gohirio ffilmio Rownd a Rownd oherwydd achosion Covid-19

Cwmni teledu Rondo yn cadarnhau fod aelodau o staff wedi profi’n bositif, ond nad oes achosion ymhlith cast a chriw Rownd a Rownd