Mae prif weithredwr Rondo Media wedi dweud wrth golwg360 fod y cwmni wedi colli “ffrind hawddgar a hwyliog” a “golygydd brwd a thalentog”, yn dilyn marwolaeth Huw Gethin Jones.

Bu farw Huw, oedd yn 34 oed ac yn dod o Ynys Môn, yn sgil cymhlethdodau’n ymwneud â Covid-19.

Roedd yn hanu o’r Gaerwen ond wedi bod yn byw yn Llynfaes.

Roedd yn olygydd gyda chwmni teledu Rondo, ac yn gyd-sylfaenydd Bragdy Mona ym Môn.

Roedd yn gerddor adnabyddus ac wedi bod yn aelod o sawl côr, gan gynnwys Hogia Llanbobman ac Aelwyd yr Ynys, yn ogystal â bod yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Penmynydd.

Daw’r newyddion am ei farwolaeth ar ôl i Rondo gadarnhau iddyn nhw ohirio ffilmio Rownd a Rownd yn sgil achosion positif o’r feirws.

Mae’n gadael gwraig, Teleri, a dau o feibion.

‘Ffrind hawddgar a hwyliog oedd yn annwyl i ni i gyd’

“Rydyn ni wedi colli cydweithiwr a oedd yn ffrind annwyl i ni i gyd,” meddai Gareth Williams, prif weithredwr cwmni Rondo wrth golwg360.

“Roedd cyfraniad Huw Gethin at ein cynyrchiadau yn aruthrol – yn olygydd staff brwd a thalentog a oedd yn rhan o dîm ôl-gynhyrchu Rondo ar gyfresi Rownd a Rownd a Sgorio.

“Fe roddodd sglein a safon hefyd i gyfresi fel Cynefin, Codi Hwyl a Gwlad yr Astra Gwyn.

“Roedd yn rhan amhrisiadwy o griw golygu digwyddiadau fel Eisteddfod Llangollen a City of the Unexpected.

“Mi oedd unrhyw dîm yn gryfach tîm os oedd Huw Geth yn rhan o’r tîm hwnnw.

“Mae ei gyfeillion yn Rondo wedi bod yn rhannu negeseuon a’u teimladau a phawb yn amlwg yn meddwl y byd ohono.

“Roedd Huw yn ffrind hawddgar a hwyliog, caredig, cymdeithasol a gofalgar.

“Gŵr bonheddig ac annwyl a fyddai’n goleuo unrhyw ’stafell olygu.

“Cymaint yw’r golled nawr hebddo fe.

“Mae ein meddyliau ni a’n cydymdeimlad llwyr gyda Teleri a’r teulu cyfan.

“Fe gofiwn am byth am Huw Geth, trysor o ddyn a phob un ohonom yn gyfoethocach o fod wedi ei adnabod.”

Teyrngedau

Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd ym Môn, a Rhuanedd Richards, Golygydd Radio Cymru a Cymru Fyw, ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol.