Mae protestiadau yn erbyn arestio rapiwr o Gatalwnia yn parhau, wrth i’r heddlu a phrotestwyr wrthdaro yn Barcelona.
Daeth miloedd o bobol ynghyd yn y brifddinas ar ôl i Pablo Hasél gael ei arestio.
Bydd e’n treulio naw mis dan glo am feirniadu’r frenhiniaeth a chlodfori gweithredoedd treisgar.
Cafodd cerrig eu taflu at yr heddlu yn nhref Lleida hefyd, lle treuliodd y rapiwr 24 awr ar safle prifysgol cyn i’r heddlu dorri i mewn i’r adeiladu i’w arestio.
Yn ôl yr heddlu, fe fu rhywfaint o wrthdaro hefyd yn ninas Tarragona, lle bu protestwyr yn taflu poteli at yr heddlu ac yn torri ffenestri.
Ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 20), fe fu protestwyr yn difrodi siopau ac yn taflu cerrig at yr heddlu ar ôl i blismyn heidio allan o’u cerbydau i’w tawelu.
Mae rhyw 80 o bobol wedi cael eu harestio, a thros 100 eu hanafu ers dydd Mawrth (Chwefror 16).
Ac mae’r heddlu wedi adrodd am o leiaf dri achos o ddifrodi eu gorsafoedd, ac mae protestwyr wedi bod yn torri i mewn i fanciau ac yn dwyn o siopau.
Mae’r Maer Ada Colau wedi galw am dawelwch.