Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn galw am fuddsoddi er mwyn gwarchod Cymru rhag llifogydd yn dilyn trafferthion mewn sawl ardal ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 21).

Mae’n dweud bod y sefyllfa’n “dorcalonnus” wrth i gartrefi a busnesau fynd dan ddŵr unwaith eto.

Roedd rhannau helaeth o Gymru’n destun rhybudd oren am law trwm yn ystod y dydd, gyda thrigolion mewn sawl ardal yn gorfod gadael eu cartrefi.

“Mae’n dorcalonnus gweld trefi a phentrefi ledled Cymru’n cael eu taro unwaith eto gan lifogydd difrifol gyda chartrefi a busnesau dan ddŵr,” meddai Adam Price.

“Dw i’n talu teyrnged i waith diflino ein gweithwyr brys sydd allan nawr mewn tywydd garw yn clirio’r ffyrdd ac yn cadw pobol yn ddiogel.

“Dw i’n estyn fy nghydymdeimlad i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd y penwythnos hwn ac yn eich annog chi i gysylltu â’ch swyddfa Plaid Cymru leol – rydym yma i helpu.”

Cymorth

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae llifogydd wedi taro sawl ardal yng Nghymru o ganlyniad i stormydd Ciara a Dennis.

Yn ôl Adam Price, does dim digon o arian wedi’i roi i helpu pobol yn dilyn y digwyddiadau hyn.

“Flwyddyn ers y dinistr i’n cymunedau gan Storm Dennis, rydym eto i weld digon o arian a buddsoddi mewn gwarchodfeydd llifogydd gan Lywodraeth Cymru,” meddai.

“Mae angen ymrwymo adnoddau, personél a chymorth ariannol ychwanegol ar frys i’r cymunedau sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan y llifogydd.

“Rhaid dysgu gwersi, ac yn gyflym, er mwyn gwarhcod ein cymunedau rhag llifogydd yn y dyfodol.”

Llifogydd Caerfyrddin

Llifogydd yn taro rhannau helaeth o Gymru

Rhybudd oren wedi bod mewn grym, a’r Ceidwadwyr Cymreig yn ymateb yn chwyrn
Llifogydd Caerfyrddin

23 o rybuddion am lifogydd a glaw trwm yng Nghymru

Mae rhybudd oren am law mewn grym tan 6 o’r gloch heno (nos Sadwrn, Chwefror 20)