Mae 23 o rybuddion am lifogydd a glaw trwm mewn grym yng Nghymru.

Mae’r rhain yn cynnwys rhybudd oren, yr ail rybudd mwyaf difrifol, tan 6 o’r gloch heno (nos Sadwrn, Chwefror 20).

Mae rhybudd melyn llai difrifol mewn grym am rannau helaeth o Gymru tan 2 o’r gloch bore fory (dydd Sul, Chwefror 21).

Mae disgwyl llifogydd, glaw trwm a thrafferthion i deithwyr ac i rai trigolion a allai golli eu cyflenwadau trydan.

Mae’r rhybudd am lifogydd mewn grym rhwng Llanfair ym Muallt a Llanelwedd, ac ar hyd afon Wysg yng Nghrughywel ac Aberhonddu lle mae’r ffyrdd ynghau.

Ond mae disgwyl tywydd gwaeth fyth yn y de a rhannau eraill o’r canolbarth, gyda rhybuddion mewn grym hefyd ar gyfer afon Cynon yn ardaloedd Aberpennar ac Abercynon, afon Llwchwr yn Rhydaman a Llandybie, afon Tywi yng Nghaerfyrddin, Llandeilo ac Abergwili.
Mae rhybuddion pellach am afon Teifi yng Ngheredigion, gan gynnwys Castellnewydd Emlyn, Cenarth, Llechryd a Llandysul.
Mae adroddiadau hefyd nad yw cerbydau bellach yn gallu croesi Pont Llanybydder.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn disgwyl 2.7 modfedd neu 70mm o law yn ardal y rhybudd oren, gydag ardal y rhybudd melyn yn gweld 5.9 modfedd neu 150mm o law.
Gallai hyd at 8 modfedd neu 200mm gwympo ar diroedd uchaf y de.
Yr ardaloedd lle mae’r rhybudd oren mewn grym yw Abertawe, Blaenau Gwent, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Sir Fynwy, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Mae’r rhybudd melyn mewn grym am rannau helaeth o Gymru, ond nid yn Ynys Môn na Sir y Fflint.