Mae Llafur Cymru’n galw ar Lywodraeth Geidwadol Prydain i fuddsoddi er mwyn gwarchod tomenni glo Cymru.
Daw’r alwad ar drothwy Cyllideb Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, ac ar ôl i Anneliese Dodds, llefarydd cyllid yr wrthblaid a Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, gyfarfod â Nia Griffith, llefarydd materion Cymreig y blai, y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda ddoe (dydd Gwener, Chwefror 19).
Fe ddaethon nhw i’r casgliad fod gwarchod tomenni glo yn sgil tywydd garw yn un o’u prif flaenoriaethau ac yn faes lle bydden nhw’n dymuno gweld buddsoddiad.
Yn ôl Anneliese Dodds, mae’r trafodaethau’n dangos “y gwahaniaeth y gall Llafur ei wneud yn y llywodraeth genedlaethol a lleol yng Nghymru ac yn San Steffan”.
Mae’n dweud bod Llywodraeth Lafur Cymru “yn cymryd mater tomenni glo o ddifri, gyda chynllun a fydd yn cadw cymunedau’n ddiogel ac yn creu cyfleoedd gwaith”.
Ond mae hi wedi cyhuddo Rishi Sunak a’r Ceidwadwyr yn San Steffan o “esgeuluso’u cyfrifoldeb”, gan alw arnyn nhw i roi cymorth i’r cymunedau sy’n cael eu heffeithio o hyd gan drafferthion yn ymwneud â thomenni glo.
‘Gwaddol’
Yn ôl Rebecca Evans, ddylai cymunedau Cymru ddim dioddef yn sgil gwaddol y tomenni glo a’r peryglon maen nhw’n eu peri i gymunedau.
“Dydy’r arian mae Cymru’n ei dderbyn ddim yn adlewyrchu’r costau hyn ac mae’n bryd i’r Canghellor gamu i fyny a wynebu ei ddyletswydd i bobol Cymru,” meddai.
“Mae angen hyn ar frys fel y gallwn ni ateb y pryderon ar unwaith a rhoi rhaglen hirdymor o weithredoedd yn eu lle i fynd i’r afael â’r mater hwn.”
Mae’n dweud ar yr un pryd fod Llywodraeth Lafur Cymru “wedi cynnig y pecyn cymorth busnes mwyaf hael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig”.
“Rydym wedi darparu mwy o gefnogaeth i fusnesau nag yr ydym wei’i derbyn o ran cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn seiliedig ar eu gwariant ar gymorth busnes yn Lloegr,” meddai