Mae aelodau seneddol wedi mynegi pryderon am hyd dedfryd Anthony Williams, dyn 70 oed o Gwmbrân, ar ôl i lys ei gael yn euog o ladd ei wraig.

Cafodd Ruth Williams, 67, ei lladd bum niwrnod yn unig ar ôl dechrau’r cyfnod clo cyntaf y llynedd, a chafwyd ei gŵr yn euog o ddynladdiad.

Ond mae Harriet Harman, Jess Phillips ac Alex Davies-Jones yn galw am adolygu’r ddedfryd yn y Llys Apêl gan ddweud ei bod “yn rhy drugarog”.

Maen nhw wedi anfon llythyr at Suella Braverman, y Twrnai Cyffredinol, gan fynegi pryder am y defnydd o iselder fel amddiffyniad yn erbyn llofruddiaeth.

Fe wnaeth Anthony Williams gyfaddef iddo dagu ei wraig yn eu cartref yng Nghwmbrân ar Fawrth 28, 2020.

Ond fe blediodd yn euog i ddynladdiad trwy gyfrifoldeb lleihaedig, gan ddweud iddo golli ei dymer.

Cafwyd e’n ddieuog o lofruddio, ac fe ddywedodd y barnwr Paul Thomas ei fod yn dioddef o iselder difrifol a gorbryder ar y pryd, ar ôl i’r llys glywed fod ganddo fe obsesiwn ag arian yn ystod y cyfnod clo.

Pryderon Harriet Harman

Mae Harriet Harman wedi beirniadu’r gyfraith oedd wedi galluogi ei gyfreithwyr i ddadlau nad oedd e’n euog o lofruddio – dadl a gafodd ei hennill er mwyn gostwng ei ddedfryd.

“Y broblem sylfaenol yw fod hyn yn dangos llinell wallus rhwng cyhuddo o lofruddiaeth a dynladdiad,” meddai.

Mae’n dweud bod hynny’n “rhoi esgus i ddyn sy’n lladd ei wraig, na fyddai fyth wedi gallu ei ddefnyddio’n gymwys pe bai wedi lladd ei gymydog”.

“Pe bai e wedi mynd allan i’r stryd a lladd cymydog, ni fyddai amheuaeth y byddai’n wynebu cyhuddiad o lofruddio.

“Rydych chi’n cael gostyngiad am y ffaith mai eich gwraig yw hi ac rydych chi’n cael gostyngiad am ei bod yn eich cartref eich hun lle dylai hi deimlo’n ddiogel.”

Pryderon Jess Phillips

Dywed Jess Phillips ei fod yn destun pryder mai am ddwy flynedd a hanner yn unig y bydd Anthony Williams dan glo.

Bydd e’n treulio gweddill ei ddedfryd ar drwydded – llai o amser nag y bu yn y ddalfa ers iddo gael ei gyhuddo.

“Felly mewn gwirionedd, rydyn ni’n edrych ar rywun yn treulio oddeutu 18 mis yn y carchar pan gafwyd hyd i ddynes yn farw,” meddai.

“Y meysydd lle dw i’n credu bod angen eu harchwilio yw sut mae rheoli’r gwahaniaeth rhwng sut mae dynion a menywod yn pledio amddiffyniad o gyfrifoldeb lleihaedig, a’r ffordd mae hynny’n mynd rhagddi, yn benodol o safbwynt achosion o lofruddiaeth drais yn y cartref.”

‘Y neges anghywir’

Yn ôl Alex Davies-Jones, Aelod Seneddol Pontypridd, “mae’r ddedfryd yn rhy drugarog”.

“Mae’n anfon y neges anghywir, yn enwedig pan ydyn ni mewn cyfnod pan fo trais domestig, oherwydd sefyllfa Covid a’r cyfnod clo, wedi cynyddu i gyfraddau epig,” meddai.

“Dw i’n poeni y gallai’r ddedfryd weithredu fel catalydd, a’n bod ni am weld pethau mwy eithafol fyth yn digwydd, gyda’r troseddwyr yn credu bod ganddyn nhw esgus.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ôl Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, fyddai hi “ddim yn synhwyrol” iddo fe wneud sylw am y mater.

Ond fe ddywedodd fod “gwasanaethau yno i helpu i warchod” pobol sy’n wynebu’r perygl o drais yn y cartref, bod yr heddlu’n barod i gamu i mewn “lle bo angen” a bod llinellau cymorth ar gael.

“Mae hwn yn fater y cafodd sylw ei dynnu ato’n gyson yn ystod bron y cyfan o 12 mis, a dw i wir eisiau i bobol yng Nghymru wybod os ydych chi eich hun yn y sefyllfa honno, neu os ydych chi’n adnabod rhywun y gall fod angen cymorth arnyn nhw, fod cymorth ar gael a bod ffyrdd o’i gael.”

 

Pensiynwr wedi’i garcharu am ladd ei wraig yn ystod y cyfyngiadau clo cyntaf

Dywedodd Anthony Williams, 70, wrth yr heddlu ei fod “wedi tagu” ei wraig Ruth, 67, yn eu cartref yng Nghwmbrân