Mae pryderon bod amrywiolyn Brasil o feirws Covid-19 yn fwy trosglwyddadwy na’r feirws ei hun.
Daw hyn ar ôl i dri achos gael eu canfod yn Iwerddon.
Mae pob achos yn gysylltiedig â thaith o’r wlad yn Ne America.
“Mae’n bosib iawn ei fod yn fwy trosglwyddadwy,” meddai Dr Colm Henry, prif swyddog clinigol HSE, wrth RTE Radio 1.
“P’un a yw’n ymwrthod yn fwy â’r gwrthgyrff niwtraleiddio sy’n cael eu creu gan frechlynnau, dydyn ni ddim yn gwybod eto.
“Fe fyddwn ni’n gwybod o amrywiolyn De Affrica sy’n rhannu rhai nodweiddion fod yna fwy o wrthiant ond mae’n dal yn ymateb i frechlynnau.
“Ond wrth gwrs, mae’n destun pryder.”
Fe ddaeth yr achosion cyntaf o’r amrywiolyn hwn i’r golwg fis Gorffennaf y llynedd, ac mae rhagofalon wedi’u cymryd er mwyn lleihau’r perygl.
Mae tua 90% o achosion o Covid-19 yn Iwerddon yn gysylltiedig ag amrywiolyn y Deyrnas Unedig, ac mae’n ymddangos bod nifer yr achosion a marwolaethau yno’n dechrau gostwng ar ôl wythnosau o gyfyngiadau llym.
Serch hynny, mae dros 4,000 o bobol wedi marw yno ers dechrau’r ymlediad, ac mae rhybudd y gallai’r cyfyngiadau fod mewn grym tan fis Ebrill.
Mae mwy o bobol yn cael eu brechu yno erbyn hyn hefyd.