Mae Ashton Hewitt, asgellwr rhanbarth rygbi’r Dreigiau yn galw ar yr awdurdodau rygbi i gydnabod fod hiliaeth yn broblem yn y gamp.
Daw ei sylwadau ddyddiau’n unig ar ôl i Yan Dhanda, pêl-droediwr Abertawe, wneud sylwadau tebyg am y gamp honno, gan alw ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i weithredu’n fwy llym yn erbyn pobol sy’n anfon negeseuon hiliol.
Mae gan Ashton Hewitt fam â chroen gwyn ac mae teulu ei dad yn hanu o Jamaica.
Mewn erthygl yn y Guardian, mae Ashton Hewitt wedi datgelu natur rhai o’r negeseuon mae e wedi’u derbyn dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn eu plith roedd deunydd yn dangos dyn croenddu yn cael ei glymu a’i losgi’n fyw a llun doli croenddu a neges sarhaus gyda’r llun hwnnw.
“Dyma’r tro cyntaf i fi gael cip ar yr hyn mae pêl-droedwyr yn mynd drwyddo fe,” meddai, wrth ddweud bod hiliaeth yn broblem pan oedd e’n blentyn yn chwarae i dîm Pill Harriers yng Nghasnewydd.
“Roedd yna ddigwyddiadau yn fy mhlentyndod pan ges i fy nhrin yn annheg – fel cael fy stopio a’m chwilio gan yr heddlu – wnaeth wir achosi rhwystredigaeth i fy mam,” meddai.
“Ond doedden nhw ddim cynddrwg â phan ddechreuais i chwarae rygbi yn fy arddegau cynnar.
“Ces i fy magu mewn ardal eithaf amrywiol yng Nghasnewydd ond roedd y mwyafrif o’r timau roedden ni’n chwarae yn eu herbyn yn y cymoed.
“Roedd hi’n sicr yn waeth pan fydden ni’n mentro y tu allan i’r ddinas.
“Byddwn i’n cael fy sarhau’n hiliol gan blant yn eithaf aml – yn enwedig os oedden ni’n ennill – ond ar un achlysur, roedd rhieni’n siantio fel mwncïod ar yr ystlys.
“Byddwn i’n mynd yn emosiynol ac yn grac ac yn cicio off.
“Dyna’r ffordd ro’n i’n arfer ymdopi â fe.”
Y gêm broffesiynol
Ond mae’n dweud bod y broblem wedi parhau wrth iddo fynd yn chwaraewr lled-broffesiynol a phroffesiynol wedyn.
Mae’n dweud nad oedd e’n “gyfforddus” yn ceisio herio’r fath agweddau ac nad oedd e’n gyfforddus yn ei groen ei hun ar y dechrau, ond ei fod e wedi magu hyder yn y pen draw.
“Os oedd pethau anwybodus yn cael eu dweud, byddwn i’n fwy cyfforddus yn cael sgyrsiau gydag unigolion,” meddai.
“Ond y trobwynt go iawn oedd y mudiad byd-eang a’r protestiadau y llynedd.
“Roedd gwir synnwyr o fomentwm ac undod.
“Do’n i erioed wedi bwriadu bod mor llafar ar y cyfryngau cymdeithasol, ond wnes i ddechrau sylweddoli fy mod i’n addysgu pobol wrth siarad a rhoi llais i bobol eraill.
“Ro’n i jyst yn teimlo’i bod yn bwysig i fi barhau.”
Deall hiliaeth
Mae’n galw ar yr awdurdodau rygbi i wneud mwy i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
“Mae angen i bawb yn y gêm ddeall hiliaeth, sut mae’n gwneud i bobol deimlo a sut mae’n effeithio’r chwaraewyr,” meddai.
“Fel arall, fydd y mater byth yn cael ei ddatrys, na fydd?
“Mae pobol yn dueddol o feddwl fod rygbi’n ynysig ac nad oes ganddi’r un broblemau cymdeithasol.
“Mae hi i fod yn gamp i bawb ond mae tystiolaeth nad yw hi felly.
“Mae llawer o faterion y mae angen mynd i’r afael â nhw o ran amrywiaeth, cynhwysiant a hiliaeth.
“Dw i ddim yn credu bod y digwyddiadau hyn yn fyd-eang yn cael eu datrys yn iawn.
“Os ydw i’n gwbl onest, fel person croenddu / hil gymysg yn y gêm, y neges i fi ar y cyfan yw nad oes digon o ots amdano.”
Cyfryngau cymdeithasol
Fel Yan Dhanda, mae’n galw ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i wirio pwy sy’n defnyddio’u gwasanaethau.
“Alla i ddim gweld unrhyw beth negyddol wrth wirio cyfrifon,” meddai.
Ac mae’n dweud bod ‘cymryd y ben-glin’ yn “fath o brotest ac yn arwydd o undod”.
Ar fater ehangach hiliaeth, mae’n gofyn i’r awdurdodau “beth ydych chi’n ei wneud i’w ddatrys?”
“Ar lefel World Rugby, hoffwn i ragor o bwysau.
“Mae’n fater sy’n ddwfn a heb ymrwymiad gan bawb – chwaraewyr, hyfforddwyr, aelodau o fyrddau, prif weithredwyr, cynghreiriau, cyrff llywodraethu – fydd dim byd yn newid.”
Teulu a dylanwadu ar y to iau
Er ei fod yn dweud bod ei fam a’i chwaer yn ypsetio wrth weld y negeseuon sarhaus yn cael eu hanfon ato, mae’n dweud ei fod yn falch o allu ysbrydoli’r genhedlaeth ifanc o gefnogwyr rygbi.
“Fe wnaeth e ddiolch i fi am fod yn llafar oherwydd, a dw i’n dyfynnu, ‘Gall hiliaeth wneud i chi deimlo ofn a thristwch’,” meddai am lythyr gan fachgen bach o Gasnewydd ato.
“Mae’r llythyr gyda fi o hyd.
“Pan fo plentyn yn dweud ei bod yn gwneud iddyn nhw deimlo ofn… dyna’r peth mwyaf pwerus y gall unrhyw un ei ddarllen.”