Mae Joe Bennett, cefnwr chwith tîm pêl-droed Caerdydd, wedi canu clodydd y rheolwr newydd Mick McCarthy ar drothwy’r gêm yn erbyn Preston yn Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 20).
Pe bai’n cael ei ddewis, hon fydd gêm rhif 350 gyrfa Bennett.
Mae’r Adar Gleision yn ddi-guro mewn chwe gêm ers i’r Gwyddel o Barnsley gael ei benodi’n rheolwr i olynu Neil Harris, ac maen nhw wedi ennill pedair gêm o’r bron.
“Mae’r giaffar a TC [Terry O’Connor, ei gynorthwyydd] wedi dod i mewn ac wedi gwneud gwaith anhygoel,” meddai wrth Cardiff City TV.
“Rydyn ni’n ddi-guro mewn chwech [o gemau], ac wedi ennill pedair o’r bron yn erbyn gwrthwynebwyr anodd.
“Mae’r gemau i gyd wedi bod yn anodd iawn, dydy’r un ohonyn nhw ddim wedi bod yn hawdd.
“Dywedodd y giaffar fod yn rhaid i ni frwydro i gychwyn, bod yn benderfynol ac amddiffyn yn dda.
“Yn amlwg, gallwch chi osod y seiliau o’r fan honno os ydych chi’n gadarn yn y cefn a ddim yn ildio, a mynd ymlaen wedyn i ennill gemau.
“Mae’n mynd i fod yn gêm anodd ar y penwythnos yn erbyn Preston, ond gobeithio y gallwn ni gael buddugoliaeth arall ar y bwrdd a mynd i mewn i’r pac ymhlith y chwech uchaf.”