Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi rhybuddio’i chwaraewyr am dîm “peryglus” Huddersfield wrth iddyn nhw deithio i Swydd Efrog ar gyfer y gêm Bencampwriaeth heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 20).

Enillodd yr Elyrch o 1-0 yn erbyn Nottingham Forest yn Stadiwm Liberty ganol yr wythnos, gyda’r Cymro Connor Roberts yn rhwydo â’i ben.

Ond doedd y tîm ddim ar eu gorau, yn ôl Steve Cooper, er ei fod e’n canmol eu cymeriad wrth godi i’r trydyd safle yn y Bencampwriaeth.

Collodd Huddersfield yn erbyn Middlesbrough ganol yr wythnos.

“Mae’n fater o chwarae’n dda yn y gêm nesaf, mae hynny’n bwysig iawn oherwydd dw i ddim yn credu y gallwch chi ddibynnu’n ormodol ar gemau fel yr un ddiwethaf,” meddai Steve Cooper.

“Rydych chi’n eu cymryd nhw wrth iddyn nhw ddod ac mae’n bosib y byddwn ni’n edrych yn ôl arni ac yn sylweddoli pa mor bwysig oedd moment fel yr un honno.

“Ond fel dw i wedi’i ddweud o’r blaen, mae’r tymor hwn yn wahanol, mae’n anodd i’w ddarogan ac yn anodd i baratoi ar ei gyfer.

“Mae gyda ni ddeg gêm i ddod mewn 31 o ddiwrnodau – pryd mae hynny wedi digwydd o’r blaen?

“Y cyfan dw i’n canolbwyntio arno yw Huddersfield.

“Mae’n gêm beryglus, fe wnaethon nhw chwarae’n dda iawn yn erbyn Middlesbrough ganol yr wythnos a rhaid i ni fod yn barod.

“Mae tolc go dda o’r tymor i fynd o hyd, felly rydych chi’n edrych ymlaen yn hytrach nag yn ôl.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd yn rhaid i ni fod yn dda iawn yn dactegol ac yn dechnegol ddydd Sadwrn.”