Mae’r Cymro Mark Williams drwodd i rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru, lle bydd e’n herio’r Sais Ronnie O’Sullivan am le yn y ffeinal yng Nghasnewydd.

Cafodd Ronnie O’Sullivan bàs ar ôl i Ali Carter dynnu’n ôl oherwydd salwch nad yw’n ymwneud â Covid-19, ac fe fydd e’n mynd am record o bum tlws yn y gystadleuaeth.

Cael a chael oedd hi i’r Cymro o Went wrth iddo guro Tom Ford o 5-4, er ei fod e ar y blaen o 3-0 ar ddechrau’r ornest.

Mae’r Albanwr Stephen Maguire drwodd i’r pedwar olaf ar ôl curo Shaun Murphy o 5-4, gan sgorio 133 i ennill y ffrâm olaf.

Bydd e’n herio Jordan Brown o Ogledd Iwerddon, oedd wedi curo’r Sais Mark Selby o 5-4 ar ôl i hwnnw fethu ergyd bêl ddu.

Dyma’r tro cyntaf i Brown gyrraedd rownd gyn-derfynol un o gystadlaethau’r detholion.