Colli o 35-29 wnaeth y Dreigiau gartref yn erbyn Leinster yng Nghynghrair A y Pro14 yn Rodney Parade neithiwr (nos Wener, Chwefror 19).

Sgoriodd Peter Dooley, Scott Penny, Josh Murphy a Dan Sheehan geisiau i’r Gwyddelod, wrth iddyn nhw hefyd gael cais cosb.

Roedd hyn er bod gan y Dreigiau fantais o un pwynt gyda blaenoriaeth o 15-14 ar yr egwyl, gyda Sam Davies yn cicio pum gôl gosb i orffen y gêm gyda 19 o bwyntiau.

Cafodd Lloyd Fairbrother a Dan Baker gardiau melyn i’r Dreigiau, ond fe wnaethon nhw sicrhau pwynt bonws gyda cheisiau gan Luke Baldwin a Josh Lewis yn hwyr yn yr ornest yn mynd â nhw o fewn saith pwynt i’w gwrthwynebwyr.

Dyma seithfed colled o’r bron y Dreigiau ar draws yr holl gystadlaethau, tra bod Leinster ar frig y tabl wrth ennill 11 allan o 12 o gemau.