Mae’r prop WillGriff John wedi ei alw i garfan Cymru yn lle Dillon Lewis.

Oherwydd anaf i’w wddf, mae Dillon Lewis wedi ei ryddhau yn ôl i ranbarth Gleision Caerdydd.

Daeth WillGriff John yn agos i ennill ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd, ond cafodd y gêm honno ei gohirio tan yr hydref.

Ers hynny dydy prop Sale heb i gynnwys yn yr un o garfanau Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, ac felly eto i ennill cap rhyngwladol.

Dechreuodd WillGriff John ei yrfa yn chwarae gyda chlwb Pontypridd, cyn dechrau ei yrfa broffesiynol gyda Gleision Caerdydd.

Mae ganddo brofiad yng nghynghrair Lloegr gyda Doncaster Knights, a Northland yn Seland Newydd.

Ymunodd â Sale Sharks bedwar tymor yn ôl yn 2017, gan chwarae i’r clwb 82 o weithiau.

Ddechrau fis Chwefror daeth cadarnhad ei fod wedi arwyddo i’r Scarlets. 

WillGriff John yn ymuno â’r Scarlets

Prif Hyfforddwr y Scarlets yn “edrych ymlaen yn fawr at ei groesawu i Barc y Scarlets yn yr haf”