Mae pedwar o chwaraewyr yng ngharfan Cymru wedi eu rhyddhau i chwarae tros eu rhanbarthau’r penwythnos hwn.
Mae hyn yn ychwanegol i’r chwech o chwaraewyr sydd eisoes wedi eu rhyddhau i’w clybiau yn Lloegr.
Y mewnwr Lloyd Williams a’r prop Rhys Carré sydd wedi eu rhyddhau i Gleision Caerdydd, a’r chwaraewr ail reng Jake Ball a’r bachwr Ryan Ellias sydd wedi eu rhyddhau i’r Scarlets.
Bydd y pedwar, sydd heb chwarae unrhyw ran yn nwy gêm agoriadol Cymru yn y Chwe Gwlad eleni, yn dechrau’r gemau i’w rhanbarthau’r penwythnos hwn.
Er nad oes gêm Chwe Gwlad y penwythnos hwn, doedd dim rhaid i Gymru ryddhau chwaraewyr eleni oherwydd y pandemig.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod chwaraewyr yn cael eu profi am Covid-19 sawl gwaith er mwyn gwarchod swigen y tîm cenedlaethol, sydd yn parhau i ymarfer dros yr wythnos orffwys.
Does yr un chwaraewr wedi eu rhyddhau i’r Gweilch na’r Dreigiau.
Chwaraewyr sy’n chwarae i glybiau yn Lloegr
Doedd dim dewis gan y chwech o chwaraewyr sydd yn chwarae i glybiau yn Lloegr ond gadael swigen y tîm cenedlaethol y penwythnos hwn.
Fodd bynnag, doedd dim rhaid i chwaraewyr sy’n rhan o garfan Lloegr wneud yr un peth.
Cytunodd Eddie Jones, prif hyfforddwr Lloegr, i ddewis carfan lai eleni – 28 dyn – er mwyn sicrhau na fyddai rhaid i chwaraewyr ddychwelyd i’w clybiau yn ystod y gystadleuaeth.
Mae asgellwr Cymru Louis Rees-Zammit a’r chwaraewr rheng ôl Taulupe Faletau wedi eu dewis i chwarae nos Wener, Chwefror 19.
Bydd y ddau yn wynebu ei gilydd pan fydd Caerloyw yn teithio i Gaerfaddon yn Uwchgynghrair Lloegr.
Bydd y maswr Callum Sheedy hefyd yn dechrau i Bristol yn erbyn Gwyddelod Llundain ddydd Sadwrn.
Dydy Dan Biggar, Tomas Francis na Will Rowlands, sydd hefyd wedi eu rhyddhau i’w clybiau yn Lloegr, heb eu dewis i chwarae’r penwythnos hwn.
Gemau rhanbarthau Cymru’r penwythnos hwn:
- Y Dreigiau v Leinster – Chwefror 19
- Y Scarlets v Benetton – Chwefror 20
- Y Gweilch v Zebre – Chwefror 20
- Gleision Caerdydd v Connacht – Chwefror 20