Am y tro cyntaf erioed bydd y Cyfrifiad eleni yn cydnabod cymunedau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol.
Bydd dau gwestiwn yn y Cyfrifiad newydd sy’n berthnasol i gymunedau LGBTQ+ ar hunaniaeth, o ran rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.
Y gobaith yw y bydd y cwestiynau gwirfoddol i unigolion 16 oed a throsodd yn meithrin dealltwriaeth well o boblogaethau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol, er mwyn helpu sefydliadau i fynd i’r afael ag unrhyw anghydraddoldebau y gall y grwpiau hyn eu hwynebu, gan amlygu ble mae angen gwasanaethau.
Fel holl gwestiynau’r Cyfrifiad, mae’r data yn ddienw ac ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei rhannu.
‘Llunio amcangyfrifon cadarn’
Er bod amcangyfrifon o gyfeiriadedd rhywiol yn genedlaethol ac yn rhanbarthol, mae Iain Bell, Dirprwy Ystadegydd Gwladol y Swyddfa Ystadegau yn gobeithio bydd y Cyfrifiad yn galluogi awdurdodau lleol i “lunio amcangyfrifon cadarn”.
“Does dim data cadarn ar gael ar hunaniaeth o ran rhywedd o gwbl,” meddai.
“Mae angen y data hwn ar awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau i lywio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau.
“Heb ddata cadarn ar faint y boblogaeth LGBT yn genedlaethol ac yn lleol, mae’r unigolion sy’n gwneud penderfyniadau yn gweithredu mewn gwacter, heb wybod graddau na natur yr anfantais y gall pobol LGBT fod yn ei hwynebu o ran iechyd, deilliannau addysgol, cyflogaeth a thai.”
Ers 1801 mae’r Cyfrifiad wedi ei gynnal unwaith bob degawd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, heblaw am 1941.
Y gobaith yw y bydd Cyfrifiad 2021 yn taflu goleuni ar anghenion grwpiau a chymunedau gwahanol, ac yn sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn â chynllunio ac ariannu gan lywodraethau canolog a lleol, y Gwasanaeth Iechyd a’r sector elusennol, oll yn seiliedig ar y wybodaeth orau bosibl.
Bydd y Cyfrifiad yn cael ei gynnal ar Fawrth 21, a bydd y canlyniadau ar gael yn 2022.
Caiff cofnodion y Cyfrifiad eu cadw’n ddiogel am 100 mlynedd a dim ond wedyn y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn gallu eu gweld.