Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi rhybuddio nad yw rhoi’r hawl i bedwar o bobl o ddwy aelwyd wahanol ymarfer corff gyda’i gilydd, yn “golygu fod gan bobol ganiatâd i gymdeithasu”.

Bore yma (dydd Gwener, Chwefror 19), datgelodd Llywodraeth Cymru y bydd pedwar o bobol yn gallu ymarfer gyda’i gilydd ar yr amod eu bod yn byw yn yr un ardal leol ac yn dechrau a gorffen eu hymarfer corff o gartref.

Ac mae disgwyl iddyn nhw gadw at ymbellhau cymdeithasol, sef dau fetr ar wahan.

A bu Mark Drakeford yn manylu ar y newid polisi yn y gynhadledd i’r Wasg dros ginio.

“Bydd pedwar person o ddwy aelwyd wahanol yn gallu gwneud ymarfer corff y tu allan,” meddai.

“Nid yw hynny’n golygu gyrru i rywle i ymarfer ac nid yw’n golygu fod gan bobol ganiatâd i gymdeithasu.”

Ychwanegodd y “bydd Chwaraeon Cymru yn gwneud trefniadau ar gyfer athletwyr i ddechrau ailhyfforddi a chwarae”.

Lefel y corona yn gostwng 

Bu’r Prif Weinidog hefyd yn talu teyrnged i’r cyhoedd am ddilyn y canllawiau clo yn ystod y ddau fis diwethaf, gan olygu fod y corona ar drai.

“Mae’r achosion nawr ar eu hisaf ers diwedd mis Medi, gyda’r gyfradd ar oddeutu 84 achos ymhob 100,000 o bobol,” meddai Mark Drakeford.

“Mae nifer yr achosion yn gostwng ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys gogledd Cymru – lle rydyn ni wedi gweld y niferoedd uchaf o achosion yn ystod yr wythnosau diwethaf.”

Aeth y Prif Weinidog ymlaen i ddatgelu bod rhif ‘R’ Cymru bellach yn is nag 1, tra bod y nifer bobol sydd mewn ysbyty gyda’r haint bellach wedi gostwng yn is na 1,800.

Dyma’r tro cyntaf ers mis Rhagfyr i’r ffigwr fod yn is na 1,800 yn ôl Mark Drakeford.

Dywedodd fod y nifer o gleifion coronafeirws sydd mewn uned gofal dwys 50% yn is nag ar frig y pandemig.

Bron i draean o boblogaeth Cymru bellach wedi derbyn y dos cyntaf o’r brechlyn

Funudau cyn i’r gynhadledd i’r wasg ddechrau, datgelodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 840,000 o bobol bellach wedi derbyn y dos cyntaf o’r brechlyn, bron i draean poblogaeth Cymru.

Ac mae 25,000 wedi cael yr ail ddos o’r brechlyn hyd yma.

Bu Mark Drakeford yn canu clodydd y rhaglen frechu yn ystod y gynhadledd, gan ddweud mai grwpiau blaenoriaeth pump i naw fydd y ffocws nesaf.

“Yr wythnos hon mae pobol wedi bod yn dechrau cael apwyntiadau am ail ddos o’r brechlyn ac mae 25,000 eisoes wedi derbyn yr ail ddos,” meddai.

“Y cam nesaf fydd cynnig y brechlyn i grwpiau blaenoriaeth pump i naw a bydd hyn yn digwydd tan ddiwedd Ebrill – gan gymryd bod y cyflenwadau yn ein cyrraedd.”

Caniatáu priodasau’r wythnos nesaf

Bydd pobol yn cael priodi’r wythnos nesaf, gyda gwestai’n cael caniatâd i agor er mwyn cynnal y seremoni.

Ond dim ond ar gyfer “priodasau a phartneriaeth sifil” y byddan nhw’n cael agor.

Dywedodd Mark Drakeford: “Yr wythnos nesaf bydd atyniadau ymwelwyr a gwestai’n cael caniatâd i ailagor, ond dim ond i gynnal seremonïau priodas a phartneriaeth sifil.”

Ac mewn rhagor o newyddion da, dywedodd y Prif Weinidog bod Llywodraeth Cymru yn ystyried “ailedrych” ar hawl teulu i yweld gydag anwyliaid mewn cartrefi gofal.

“Wrth i fwy o bobol gael eu brechu mewn cartrefi gofal, byddwn yn ailedrych hefyd ar ein canllawiau ymweld,” meddai.

Ffigyrau diweddaraf

Mae 16 yn fwy o bobol wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru, gan ddod â nifer y meirw i 5,205, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Datgelodd hefyd bod 533 o achosion newydd o’r feirws wedi eu cofnodi, gan ddod a’r cyfanswm ers dechrau’r pandemig i 200,989.