Bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn dychwelyd i’r ysgol i gael addysg o ganol mis Mawrth, ar yr amod bod sefyllfa’r coronafeirws yn “parhau i wella”, meddai’r Prif Weinidog ar y radio’r bore yma.
Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud y byddai disgyblion rhwng tair a saith oed yn dychwelyd i ysgolion cynradd Cymru ar Fawrth 15.
Ond dywedodd Mark Drafeford wrth raglen Today BBC Radio 4 y gallai holl ddisgyblion cynradd y wlad – a rhai disgyblion hŷn mewn ysgolion uwchradd – ddychwelyd hefyd.
“Byddaf yn dweud heddiw, ar ddydd Llun 15 Mawrth, ar yr amod bod pethau’n parhau i wella, y bydd pob plentyn ysgol gynradd yn ôl mewn addysg wyneb yn wyneb, a’r myfyrwyr hynny mewn ysgolion uwchradd sy’n wynebu arholiadau. Ein nod yw eu cael yn ôl yn yr ystafell ddosbarth hefyd,” meddai Mark Drakeford.
“Ac yna byddwn yn adolygu’r sefyllfa yn ofalus fel rhan o’n cytundeb gyda’n hundebau athrawon ac awdurdodau addysg lleol.
“Byddwn yn cymryd cam, byddwn yn casglu’r dystiolaeth, a byddwn yn penderfynu beth i’w wneud nesaf.”
Ychwanegodd Mark Drakeford y byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd “camau gofalus a phwyllog” tuag at leddfu’r cyfyngiadau symud yng Nghymru.
Hwb i dwristiaeth?
Fe allai llety gwyliau hunangynhaliol ailagor yng Nghymru cyn gwyliau’r Pasg, meddai’r Prif Weinidog.
“Fe wnes i gyfarfod â’n tasglu twristiaeth ddoe, a byddwn yn cynnal trafodaethau manwl gyda nhw dros yr wythnosau nesaf i weld a oes unrhyw beth y gallem ei wneud o gwmpas cyfnod y Pasg,” meddai.
“Ar y mwyaf byddai’n golygu ailagor llety hunangynhaliol lle nad oes cyfleusterau’n cael eu rhannu ac nad oes cymysgu cymdeithasol.
“Ond pe gallem wneud hynny – ac mae chwe wythnos yn gyfnod hir iawn yn y busnes hwn – pe gallem wneud hynny ymhen chwe wythnos, gwn y byddai hynny’n hwb i’r diwydiant.
“Ac yn hwb mawr i gannoedd o filoedd o deuluoedd yng Nghymru a fyddai yn croesawu cael mynd i garafán am ychydig ddyddiau o seibiant.”
Fe allai siopau trin gwallt ddechrau agor
Ac mae Mark Drakeford wedi dweud wrth wylwyr rhaglen BBC Breakfast y gallai rhai siopau a busnesau sydd ddim yn y categori ‘hanfodol’, ddechrau ailagor yng Nghymru o Fawrth 15.
Dywedodd Mark Drakeford wrth BBC Breakfast: “Byddaf yn nodi heddiw rhai trafodaethau y byddwn yn eu cael dros yr wythnosau nesaf i weld sut y gallem ddechrau ailagor manwerthu nad yw’n hanfodol.
“Dydw i ddim yn credu y bydd yn ailagor ar raddfa eang. Rydym yn mynd i wneud pethau yn y ffordd y mae Sage a Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell – yn ofalus, gam wrth gam, bob amser yn asesu effaith unrhyw gamau a gymerwn.
“Ond os yw’n bosibl o Fawrth 15 i ddechrau ailagor rhai agweddau ar wasanaethau manwerthu a phersonol nad ydynt yn hanfodol, fel trin gwallt, yna wrth gwrs dyna beth fydden ni eisiau ei wneud.”
Grwpiau o bedwar yn cael cyfarfod ac ymarfer corff
Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi heddiw bod grwpiau o bedwar o bobol am gael cyfarfod ac ymarfer corff yn yr awyr agored.
Ar hyn o bryd mae dau berson o ddwy aelwyd wahanol yn cael cyfarfod tu allan i ymarfer corff – cyn belled eu bod yn cadw dau fetr ar wahân.
Mae’r newid i’r rheol yn golygu y bydd pedwar o bobol yn gallu ymarfer gyda’i gilydd ar yr amod eu bod yn byw yn yr un ardal leol ac yn dechrau a gorffen eu hymarfer corff o gartref.
Cymru ddim yn “barod i lacio cyfyngiadau ar lefel genedlaethol”
Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wedi rhybuddio nad yw Cymru yn “barod i lacio cyfyngiadau ar lefel genedlaethol”.
“Mae cyfraddau heintio yn parhau i fod yn uchel, tra bod y bwlch sydd gennym yn parhau i fod yn isel,” meddai.
“Dylai’r penderfyniadau gael eu gyrru gan ddata, nid dyddiadau.
“Dylid llacio cyfyngiadau teithio yn ofalus a’r dull synhwyrol fyddai ailgyflwyno’r neges ‘aros yn lleol’ cyhyd ag y bo angen.”